Jonathan Davies
Bydd Scarlets Llanelli a Gleision Caerdydd yn ffarwelio â nifer o’u chwaraewyr ar ddiwedd y tymor hwn, a sawl seren yn chwarae am y tro olaf wrth i’r ddau dîm chwarae ei gilydd ar Barc y Scarlets nos yfory yng nhhystadleuaeth y Pro12.

Bydd canolwr y Scarlets Jonathan Davies yn arwain ei dîm am y tro olaf cyn gadael am Clermont Auvergne ac mae cefnwr Cymru a’r Gleision Leigh Halfpenny yn teimlo yn ddiflas ei fod yn colli’r gêm hon cyn ymadael am Toulon.

Mae clo y Gleision, Bradley Davies yn ymuno â’r London Wasps.

Bydd asgellwr y Gleision, Harry Robinson yn ymuno â’r Scarlets erbyn y tymor nesaf.  Mae prop rhyngwladol Ffiji a’r Scarlets Deacon Manu wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl treulio wyth mlynedd gyda’r rhanbarth, a hynny er mwyn hyfforddi yn Hong Kong.

Fe allai wythwr y Gleision, Robin Copeland, a chefnwr y Scarlets Liam Williams ddychwelyd yn dilyn gwaharddiad.  Mae Copeland yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor er mwyn ymuno â Munster.  Yn sicr bydd hyn yn golled i’r Gleision gan ei fod yn chwaraewr dylanwadol.

Bydd asgellwr y Gleision Chris Czekaj yn gadael am Colomiers gyda’r chwaraewr rheng-ôl Luke Hamilton yn ymuno ag Agen.  Fe wnaeth y Gleision guro’r Scarlets 17-13 yn Stadiwm y Mileniwm bythefnos yn ôl.

Tîm y Gleision

Olwyr – Dan Fish, Alex Cuthbert, Cory Allen, Isaia Tuifua, Harry Robinson, Simon Humberstone a Lewis Jones.

Blaenwyr – Gethin Jenkins, Matthew Rees (Capten), Taufa’ao Filise, Bradley Davies, Filo Paulo, Macauley Cook, Josh Navidi a Robin Copeland.

Eilyddion – Kristian Dacey, Thomas Davies, Scott Andrews, Chris Dicomidis, Ellis Jenkins, Lloyd Williams, Dafydd Hewitt a Thomas Williams.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Kristian Phillips, Jonathan Davies (Capten), Steven Shingler, Jordan Williams, Rhys Priestland a Rhodri Williams.

Blaenwyr – Phil John, Ken Owens, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Josh Turnbull, Aaron Shingler a Rob McCusker.

Eilyddion – Kirby Myhill, Rob Evans, Rhodri Jones, Richard Kelly, Sione Timani, Gareth Davies, Olly Barkley a Gareth Maule.