Mae Wayne Pivac wedi ymddiswyddo fel rheolwr yn Auckland NPC i gymryd swydd newydd gyda’r Scarlets.

Mae Pivac wedi bod yn hyfforddwr yn Auckland NPC am ddwy flynedd ond yn awr yn barod am ei her i fod yn hyfforddwr cynorthwyol i’r Scarlets.

‘‘Mae Wayne wedi bod yn gyfrannwr mawr i rygbi Auckland ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’n tîm yn ystod ei gyfnod yma.  Ond rydym yn cydnabod ei ddyheadau ac yn deall ei awydd i ymgymryd â her newydd.

“Rydym yn dymuno pob llwyddiant yng Nghymru iddo,’’ meddai Andy Dalton, Prif Swyddog gweithredol rygbi Auckland NPC.