David Morgan
Mae Llywydd Clwb Criced Morgannwg, David Morgan wedi cael ei ddewis yn Llywydd nesaf yr MCC.

Fe fydd e’n dechrau ar ei waith ar Hydref 1 eleni ac fe fydd ei gyfnod wrth y llyw yn cynnwys Cyfres y Lludw haf nesaf.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Rwy wrth fy modd o glywed y newyddion am benodi David Morgan yn Llywydd yr MCC.

“Rwy wedi cydweithio’n agos â David ers dros 30 o flynyddoedd a does gen i ddim amheuaeth y bydd e’n gwneud cyfraniad rhagorol i’r clwb enwog dros y 12 mis nesaf.”

Ychwanegodd Cadeirydd Morgannwg, Barry O’Brien fod David Morgan yn “un o’r gweinyddwyr criced uchaf ei barch ac edmygedd”.

Yn ystod ei gyfnod ym myd criced, bu David Morgan yn Gadeirydd Morgannwg, Cadeirydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) a Llywydd y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC).

‘Anrhydedd’

Dywedodd David Morgan: “Er fy mod yn ei gael yn anrhydedd cael fy enwebu gan Mike Gatting i fod yn Llywydd Etholedig yr MCC, ni fydd hyn yn tarfu ar fy ymrwymiad i Forgannwg mewn unrhyw ffordd.

“Edrychaf ymlaen at 12 mis cyffrous gan gynnwys Cyfres y Lludw Investec.

“Ers cryn amser, rwy’n edmygu gwerthoedd a thraddodiadau’r MCC ac rwy’n sicr y bydd y profiad yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa.”