Mae’r chwaraewr 23 oed Hanno Dirksen wedi arwyddo cytundeb o dair blynedd gyda’r Gweilch.

‘‘Nid wyf wedi chwarae llawer y tymor yma oherwydd anaf ond rwy’n hynod o falch o fod wedi gallu ymestyn fy nghytundeb gyda’r Gweilch.  Mae yna dipyn o gystadleuaeth am safle’r asgellwr ond mae angen hynny i ddatblygu eich hun fel chwaraewr,’’ meddai Hanno Dirksen.

‘‘Mae’n newyddion arbennig ein bod wedi llwyddo i sicrhau Hanno am y tair blynedd nesaf.  Mae’n dal i fod yn ifanc ac wedi ennill cryn dipyn o brofiad gyda ni fel rhanbarth,’’ meddai Andy Lloyd, Rheolwr Gweithrediadau Rygbi.

Dirksen yw’r 13eg chwaraewr i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch ynghyd ag Alun Wyn Jones, Sam Lewis, Ashley Beck, Eli Walker, Jonathan Spratt, Ben John, Ryan Bevington, Dmitri Arhip, Nicky Smith, Dan Baker, Dan Suter a Lloyd Peers.