Mi fydd y blaenasgellwr rhyngwladol Manoa Vosawai yn ymuno â’r Gleision ar gyfer y tymor nesaf oddi wrth Treviso.

Yn enedigol o Fiji mae Vosawai wedi ennill 14 cap dros yr Eidal.  Yn ogystal â Vosawai mae’r Gleision wedi arwyddo’r clo Jarrad Hoeata, y prop o Gaerwysg Craig Mitchell, blaenasgellwr y Scarlets Josh Turnbull, y mewnwr Tavis Knoyle a’r blaenasgellwr Ieuan Jones.

Fe wnaeth y chwaraewr 30 oed ei ymddangosiad gyntaf i’r Eidal yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2007 yn erbyn Siapan ac yna yn erbyn Portiwgal.

‘‘Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i Dduw am fy mywyd a’r holl fendithion ynddo.  Hoffwn i ddiolch i Treviso a wnaeth fy natblygu fel chwaraewr.  Ond yn awr rwy’n ddiolchgar i Richard Holland â’i dîm am y cyfle i fod yn rhan o deulu’r Gleision.  Rwyf yn edrych ymlaen at wisgo crys y Gleision y tymor nesaf,’’ meddai Vosawai.