Sicrhaodd partneriaeth o 97 rhwng Mark Wallace a Will Bragg gêm gyfartal i Forgannwg ar ddiwrnod olaf yr ornest yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn Stadiwm Swalec.
Roedd Morgannwg yn cwrso 382 am fuddugoliaeth, ond fe gawson nhw ddechreuad trychinebus i’r batiad, gan golli pum wiced am 90 o rediadau.
Arhosodd Will Bragg wrth y llain i gynnig llygedyn o obaith i’r Cymry, ac fe gafodd ei gefnogi’r pen arall gan y capten Mark Wallace.
Gorffennodd Bragg naw rhediad yn brin o’i drydydd canred i Forgannwg.
Seren yr ornest i’r ymwelwyr oedd Daryl Mitchell, a ddilynodd ei ganred yn y batiad cyntaf (109) gyda chant a hanner yn yr ail fatiad i osod nod o 382 o rediadau i Forgannwg gydag ychydig yn fwy na diwrnod yn weddill.
Daeth Gareth Rees a’r noswyliwr Dean Cosker i’r llain y bore ma gyda’r sgor ar 14-1.
Ond cipiodd Swydd Gaerwrangon wiced Cosker heb ychwanegu at y sgor dros nos ac roedd y batiad mewn perygl o chwalu wrth i Rees, Goodwin a Walters ddychwelyd i’r pafiliwn yn weddol gyflym gyda’r sgor yn cyrraedd 90-5.
Ond daeth achubiaeth gan y capten a’r batiwr ifanc Bragg tua diwedd y batiad, cyn i Wallace golli’i wiced i droellwr Pacistan, Saeed Ajmal.
Bragg a Graham Wagg oedd wrth y llain pan ddaeth yr ornest i ben toc wedi 6yh.
Mae modd gweld y sgorfwrdd llawn ar waelod y dudalen.