James Chester
Mae adroddiadau ar led fod amddiffynnwr Hull, James Chester, wedi penderfynu ei fod am chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru.

Mae’r cefnwr eisoes wedi dweud y bydd ar gael i’w ddewis ar gyfer gêm nesaf Cymru, i ffwrdd yn erbyn yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin, yn ôl BBC Sport.

Dyw Cymdeithas Bêl-droed Cymru na Hull City wedi cadarnhau’r newyddion ynglŷn â phenderfyniad Chester yn swyddogol hyd yn hyn.

Cafodd Chester ei eni yn Warrington ond mae ei fam yn hanu o’r Rhyl, sydd yn golygu fod y gŵr 25 oed yn gymwys i chwarae dros Gymru.

Dyw hi dal ddim yn glir eto a fydd Chester yn cael ei gynnwys yn y garfan fydd yn teithio i Amsterdam, ar ôl iddo ddioddef anaf i linyn y gâr ar y penwythnos.

Mae’n wynebu ras i fod yn ffit ar gyfer gêm fawr Hull yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Arsenal ar 17 Mai.

Bu Chester yn chwarae’n gyson yng nghanol yr amddiffyn i Hull eleni yn eu tymor cyntaf llwyddiannus nôl yn yr Uwch Gynghrair, gan ymddangos 28 o weithiau er gwaethaf dioddef anafiadau.

Bydd yn cystadlu ag Ashley Williams, James Collins a Sam Ricketts am le yn amddiffyn Cymru petai’n cael ei ddewis.

Dechreuodd Chester ei yrfa ym Manchester United cyn treulio cyfnodau ar fenthyg yn Peterborough, Plymouth a Carlisle.

Symudodd i Hull yn 2011 ac ers hynny mae wedi chwarae bron i 150 o weithiau dros y clwb.