Mae penaethiaid rygbi yng Nghymru’n gobeithio y bydd modd taro bargen gyda’r rhanbarthau tros fformat cystadlaethau ar gyfer y tymor nesaf.

Gwrthododd y rhanbarthau lofnodi cytundeb erbyn Rhagfyr 31, ond mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, David Pickering wedi dweud ei fod yn gobeithio dod i gytundeb yn fuan.

Mae ffrae tros ariannu’r rhanbarthau a’r llif o chwaraewyr sydd wedi gadael am uwch gynghrair Ffrainc a Lloegr wedi bod yn rhwystr yn y broses o gymodi.

Mae’r cytundeb presennol yn dod i ben ar Fehefin 30.

Arian

Dywedodd Pickering wrth y BBC fod “strwythurau’r cystadlaethau yn eu lle o ran Ewrop a’r Gynghrair Geltaidd, ac rwy’n credu y bydd strwythur y cystadlaethau’n ein helpu ni”.

Ychwanegodd y byddai llif ychwanegol o arian yn helpu’r gêm i ddatblygu yng Nghymru.

“Fe wnawn ni beth bynnag fedrwn ni i gefnogi ein rhanbarthau, ond allwn ni ddim gwneud yr undeb yn fethdal.

“Fe fydd cyfanswm penodol o arian ar gael sy’n rhaid i ni ei roi i’r gêm ar lefel y rhanbarthau, lefel lled-broffesiynol a’r cymunedau.”