Tom Lawrence
Mae Declan John a Tom Lawrence wedi cael eu cynnwys yng ngharfan dan-21 Cymru i wynebu Lloegr yn eu gêm ragbrofol Ewro 2015 ar 19 Mai.

John yw’r unig un yn y garfan sydd wedi ennill cap llawn dros Gymru, tra bod Lawrence wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Manchester United neithiwr.

Mae nifer o enwau cyfarwydd gan gynnwys Kieron Freeman, Joe Walsh, Lee Lucas, Lloyd Isgrove a Josh Pritchard wedi cael eu henwi unwaith eto.

Ond dyw’r ymosodwyr Billy Bodin, Ellis Harrison a Jake Cassidy ddim ar gael i’r garfan.

Hon fydd gêm gartref olaf tîm Geraint Williams cyn iddyn nhw orffen eu hymgyrch i ffwrdd yn y Ffindir a Lithwania ym mis Medi, ac mae nifer o enwau cyfarwydd yn y garfan unwaith eto.

Os bydd y Dreigiau ifanc yn ennill yn erbyn y Saeson yn Stadiwm y Liberty bydd dal ganddyn nhw gyfle bychan o gyrraedd y gemau ail gyfle fydd yn penderfynu pwy fydd yn cyrraedd y twrnament terfynol yng Ngweriniaeth Tsiec.

Mae’r tîm yn drydydd yn eu grŵp ar hyn o bryd ar ôl ennill tair, colli tair a chael un gêm gyfartal, ac fe fydd yn rhaid felly ennill y gêm nesaf er mwyn cadw’u gobeithion yn fyw.

Collodd Cymru o 1-0 mewn gêm agos iawn pan chwaraeodd y ddau dîm yn Derby ym mis Mawrth eleni, gyda Nathan Redmond yn sgorio unig gôl y gêm i Loegr.

Hon fydd yr ail waith i’r tîm dan-21 erioed chwarae yn Stadiwm y Liberty – y tro diwethaf iddyn nhw wneud hynny oedd yn 2009 pan sgoriodd Christian Ribeiro ac Aaron Ramsey mewn buddugoliaeth syfrdanol o 2-1 dros yr Eidal.

Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y gêm ar 19 Mai yn Stadiwm Liberty am £5 i oedolion a £2 i henoed a phlant dan 16.

Carfan dan-21 Cymru: Connor Roberts (Cheltenham), Daniel Ward (Lerpwl), Morgan Fox (Charlton Athletic), Kieron Freeeman (Derby County, ar fenthyg yn Sheffield United), Joe Walsh (Crawley), Scott Tancock (Abertawe), Lee Lucas (Abertawe), Declan John (Caerdydd), George Ray (Crewe), Tom O’Sullivan (Caerdydd), Tom Lawrence (Manchester United), Lloyd Isgrove (Southampton, ar fenthyg yn Peterborough), Lee Evans (Wolves), Wes Burns (Bristol City), Rob Ogleby (Wrecsam), Gwion Edwards (Abertawe, ar fenthyg yn Crawley), Josh Pritchard (Fulham), George Williams (Fulham)