Garry Monk
Mae Abertawe wedi cadarnhau y bydd Garry Monk yn aros fel rheolwr y tîm cyntaf, a hynny ar gytundeb parhaol am dair blynedd.
Bydd Pep Clotet yn cymryd yr awenau fel is-reolwr, ar ôl ymuno â’r clwb nôl ym mis Tachwedd i weithio gyda chwaraewyr ifanc.
Cafodd Monk ei benodi i’r swydd dros dro yn dilyn ymadawiad Michael Laudrup ym mis Chwefror, ac roedd disgwyl y byddai’n cael cynnig i fod yn rheolwr parhaol ar ddiwedd y tymor.
Dywedodd Monk nad oedd am drafod ei ddyfodol nes y byddai’r Elyrch yn saff yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall, ac ar ôl iddyn nhw sicrhau hynny’r wythnos diwethaf fe gynhaliwyd trafodaethau pellach â’r cadeirydd Huw Jenkins.
‘Penderfyniad pwysig’
“Rydym wrth ein bodd yn cadarnhau Garry Monk fel rheolwr y tîm cyntaf,” meddai Jenkins mewn datganiad ar wefan y clwb.
“Fe ystyriodd Bwrdd y Cyfarwyddwyr y cam nesaf yn ofalus oherwydd roedd yn benderfyniad pwysig i’r clwb. Ond ar ôl mynd drwy’r broses hwnnw, fe gytunom ni’n unfrydol fod yr amseru’n iawn i Garry gael cynnig y swydd yn barhaol.”
Dywedodd Jenkins fod Monk wedi addasu i “amgylchiadau heriol” wrth gymryd y swydd dros dro ac y byddai’r penodiad nawr yn gyfle i Abertawe “atgyfnerthu’r egwyddorion” sydd wedi sicrhau y byddan nhw yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf am bedwerydd tymor.
Fe ymunodd Monk ag Abertawe yn 2004 pan oedd y clwb yng Nghynghrair Dau, gan ddod yn gapten ar y clwb wrth iddyn nhw godi drwy’r cynghreiriau yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
Ers dod yn rheolwr dros dro mae Monk wedi ennill pedair o’i 16 gêm wrth y llyw, gyda’r tîm yn 13eg yn nhabl yr Uwch Gynghrair ag un gêm i fynd.