Tom Lawrence (llun: CBDC)
Roedd pawb yn disgwyl nodi’r gêm neithiwr rhwng Man United a Hull fel achlysur arbennig i Gymro ac asgellwr sydd wedi disgleirio yn Old Trafford ers 23 mlynedd bellach.

Ac fe gawson nhw hynny, gyda Ryan Giggs yn dod ymlaen fel eilydd am yr ugain munud olaf – am Gymro arall sydd yn megis dechrau ar ei yrfa ddisglair yntau.

Fe syfrdanodd Giggs bawb wrth ddewis Tom Lawrence, 20 oed ac yn enedigol o Wrecsam, i ddechrau fel rhan o linell ymosodol amhrofiadol oedd yn cynnwys Adnan Januzaj, 19, a James Wilson, 18.

Wilson ddygodd y prif benawdau gyda dwy gôl yn y fuddugoliaeth o 3-1, ond fe lwyddodd Lawrence i greu argraff ar nifer o’r cefnogwyr hefyd.

Barn y papurau

Cafwyd clod iddo yn adroddiad y Daily Mail, a ddywedodd i’r Cymro “gael noson i fod yn falch ohoni gyda pherfformiad trawiadol”.

Roedd Lawrence yn “fygythiad parhaol i amddiffyn Hull ac yn chwarae yn yr un safleoedd ymosodol [â Giggs]” ddaeth ymlaen yn ei le, medd y papur, gan ddangos digon i awgrymu ei fod yn haeddu chwarae mwy y tymor nesaf.

Yn ôl y Telegraph gall Lawrence fod yn ddewin Cymraeg arall i gymryd lle Giggs yn Man United nawr bod disgwyl i’r hen ben roi’r gorau i chwarae ar ddiwedd y tymor.

Maen nhw’n nodi ei fod wedi chwarae rhan allweddol wrth i dîm dan-21 Man United ennill eu cynghrair y tymor diwethaf, a’i fod wedi creu argraff ar fenthyg yn Carlisle a Yeovil y tymor hwn.

Dywed bod Lawrence “yn mwynhau chwarae oddi ar yr ymosodwr, dod yn ddyfnach, defnyddio’r gwagle a chreu ymosodiadau yn hytrach na bod yn sgoriwr o fri”.

Cafodd y Guardian eu syfrdanu gyda dewisiadau Giggs, gan ddweud y byddai’r gêm “yn un fythgofiadwy” i Lawrence a Wilson – er mai Wilson sydd yn cael y clod mwyaf am ei goliau.

Roedd clod i Lawrence yn yr Independent hefyd, a nododd ei fod yn barod i ddod i chwilio am y bêl yn ogystal â rhedeg am ei ddyn pan fo’r cyfle’n codi.

Gallai fod wedi sgorio un ei hun yn yr hanner cyntaf, ac fe roddwyd clod iddo am ei “draed chwim allai gyffroi” y cefnogwyr.

Ond cafwyd rhybudd na ddylid disgwyl gormod o Lawrence (a Wilson) eto, gyda’r papur yn nodi nad oes “sicrwydd” y gallai’r ddau gael yr un argraff ar y tîm cyntaf a Januzaj eleni.

Ac roedd y Daily Post yn awyddus i nodi fod Lawrence, cyn-chwaraewr y flwyddyn i Sir y Fflint, yn dilyn ôl traed chwaraewyr nodedig iawn gan gynnwys Ryan Shawcross, Michael Owen a Gary Speed.

Gwyliwch dwy gôl hyfryd a sgoriodd Tom Lawrence pan oedd ar fenthyg yn Carlisle yn gynharach y tymor hwn (0:12 a 1:00 yn y clip):

Clod Giggsy

Wrth siarad â’r cefnogwyr ar ôl y gêm roedd Ryan Giggs ei hun yn fwy parod i awgrymu fod gan Lawrence a’r chwaraewyr ifanc eraill ddyfodol yn y tîm cyntaf.

“Fe ddywedais i fy mod i eisiau dod a’r cyffro yn ôl,” meddai Giggs. “Roedd rhai o chwarae ymosodol y bechgyn ifanc yn wych.

“Fe gawson ni’r bechgyn ifanc i ymarfer gyda ni a doedden nhw ddim yn edrych allan o le. Roeddwn i eisiau newid pethau o ddydd Sadwrn a wnaethon nhw ddim siomi.”

Roedd yr ymateb ar Twitter hefyd yn ffafriol, gyda pherfformiad Lawrence a Wilson i’w weld fel petai wedi creu argraff dda ar y cefnogwyr.

Ac roedd Tom Lawrence ei hun yn amlwg wedi cyffroi o gael chwarae ei gêm gyntaf dros y clwb, ddyddiau yn unig ar ôl dychwelyd o’i gyfnod ar fenthyg yn Yeovil.

“Waw dyna deimlad heno, fe wnes i fwynhau pob munud! Dod i ffwrdd hefyd am legend fel Giggs #whatafeeling,” trydarodd yr ymosodwr neithiwr.