Llwyddodd Cymry Caerdydd i ennill Powlen SWALEC prynhawn ddydd Sul ar ôl trechu Llanilltud Fawr 16-10 yn Stadiwm y Mileniwm.
Roedd Tîm yr Wythnos golwg360 yn ffefrynnau cyn y gêm ond cafwyd gornest agos wrth i Lanilltud frwydro nôl yn yr ail hanner mewn gêm gystadleuol tu hwnt.
Ac roedd cais Paul Davies a chiciau Oliver Jenkins yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gymry Caerdydd.
Fe aeth tîm y Cymry Cymraeg ar y blaen ar ôl pum munud diolch i gic gosb Jenkins, cyn i’r maswr fethu ergyd arall am y pyst funudau’n ddiweddarach.
Fe ychwanegodd Jenkins dri phwynt arall gyda’i droed cyn i gapten Llanilltud Fawr, Shaun Shea, orfod gadael y maes ar ôl ugain munud.
Ac yna fe sgoriodd Cymry Caerdydd eu hunig gais o’r gêm, wrth i’r cefnwr Paul Davies groesi’r llinell ar ôl rhediad gwych gan y canolwr Richard Read, a Jenkins yn ychwanegu’r trosiad.
Ond fe darodd Llanilltud yn ôl yn syth, gyda chais i’r prop David Taylor a throsiad Ryan Evans o’r ystlys yn ei gwneud hi’n 13-7.
Caeodd Evans y bwlch i dri phwynt gyda chic gosb ar ôl i Lanilltud fethu cyfle arall am gais, cyn i Jenkins roi Cymry Caerdydd chwe phwynt ar y blaen eto gyda chic gosb ar ôl 66 munud.
Ac felly’r arhosodd hi, gyda Chymry Caerdydd yn cipio Powlen SWALEC i goroni tymor gwych i’r clwb, sydd hefyd wedi sicrhau dyrchafiad o Adran Pedwar (De Ddwyrain) y gynghrair.
Ar yr un prynhawn yn Stadiwm y Mileniwm fe sicrhaodd cyn-Dîm yr Wythnos golwg360, Pontypridd, fuddugoliaeth yng Nghwpan SWALEC ar ôl trechu Cross Keys 21-8, tra bod Merthyr wedi curo Rhiwbina 29-26 i ennill y Plât.
Mae llwyddiant Cymry Caerdydd hefyd yn golygu pum buddugoliaeth yn olynol mewn gemau cwpan i Dîm yr Wythnos golwg360 – felly os oes gennych chi ffeinal fawr ar y penwythnos ac eisiau ychydig o lwc ychwanegol, cofiwch gysylltu â ni!