Mae’r Scarlets wedi cadarnhau heddiw y bydd asgellwr Cymru Harry Robinson yn ymuno â’r rhanbarth o’r Gleision ar ddiwedd y tymor.

Fe ddywedodd y Gleision ym mis Mawrth eu bod yn disgwyl i Robinson symud i Lanelli, ac mae ei glwb newydd nawr wedi cadarnhau hynny’n swyddogol.

Bydd Robinson yn ymuno yn yr haf ar ôl pedwar tymor gyda rhanbarth y brifddinas, cyfnod a welodd ef yn dod yn un o’r olwyr mwyaf addawol yng Nghymru.

Mae’r gŵr 21 oed wedi ennill tri chap dros Gymru, gan sgorio yn ei gêm gyntaf yn erbyn y Barbariaid yn 2012 cyn chwarae ddwywaith ar eu taith yn Siapan y llynedd.

Ef oedd y chwaraewr ifancaf erioed i chwarae dros y Gleision pan wynebodd y Gweilch yn 2011 yn ddim ond 17 oed, ac mae ar drothwy chwarae 50 gêm dros y rhanbarth.

Wrth gadarnhau’r newyddion fe ddywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby fod Robinson yn chwaraewr â photensial ac y byddai’n gwneud yn dda yn “awyrgylch ifanc ac uchelgeisiol” y rhanbarth.

Ac fe ddywedodd yr asgellwr ei hun ei fod yn gobeithio y bydd chwarae yn nhîm ifanc y Scarlets yn medru ail sbarduno’i gyfle gyda Chymru.

“Mae’r Scarlets yn chwarae rygbi cyffrous ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan ohoni,” meddai Harry Robinson.

“Maen nhw’n adnabyddus am redeg gyda’r bêl ac mae llawer o chwaraewyr ifanc yno – bechgyn fel Jordan [Williams], Kristian [Phillips] a Sanjay [Liam Williams].

“Dwi ddim yn edrych gormod i’r dyfodol ond i fod yn onest mae Cymru wastad yng nghefn y meddwl. Rwy’n edrych ymlaen at y tymor newydd gyda’r Scarlets.”