James Hook
Fe ffarweliodd Perpignan â’r Top 14 ar ôl colled o 25-22 yn erbyn Clermont dros y penwythnos, ar ôl i Oyonnax hefyd gipio pwynt bonws colli yn erbyn Brive i aros yn y gynghrair.
Bu’r ddau dîm yn cyfnewid ciciau drwy’r gêm ar ôl cais yr un, gyda James Hook yn trosi honno yn ogystal â chicio gôl adlam a phedair gic gosb.
Ond doedd hi ddim yn ddigon i’r Catalaniaid – ac mae disgwyl nawr y bydd Hook a Luke Charteris yn chwilio am glybiau newydd ar gyfer y tymor nesaf.
Mae Biarritz i lawr ers sbel, ac fe orffennon nhw’r tymor gyda cholled arall i Bordeaux o 54-20, Aled Brew yn ymddangos o’r fainc.
Ond fe orffennodd Racing Metro yn y chwech uchaf er gwaethaf crasfa o 44-10 gan Montpellier, gyda Jamie Roberts yn chwarae gêm lawn a Mike Phillips yn dod oddi ar y fainc, ar ôl i Castres a Stade Francais golli hefyd.
Yng Nghynghrair Lloegr serennodd Owen Williams i Gaerlŷr unwaith eto wrth iddyn nhw drechu Sale 42-22 i godi i’r trydydd safle a sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.
Trosodd Williams chwe chais i’w dîm (er iddo fethu tair cic gosb) a chreu dwy o’r ceisiau hynny gyda pherfformiad nodweddiadol arall i drechu criw Dwayne Peel, Eifion Lewis-Roberts a Marc Jones.
Sicrhaodd Saracens y byddwn nhw’n gorffen yn gyntaf yn y tabl, a bod Caerwrangon hefyd yn gorffen yn olaf, gyda buddugoliaeth o 44-20 dros dîm Jonathan Thomas. Daeth Rhys Gill oddi ar fainc Saracens wedi saith munud, a chael cerdyn melyn yn yr hanner cyntaf hefyd.
Llithrodd Caerfaddon i bedwerydd yn y tabl ar ôl gêm gyfartal 19-19 yn erbyn Northampton nos Wener, gyda Paul James yn chwarae gêm lawn a Gavin Henson yn dod oddi ar y fainc.
Mae’r canlyniad hwnnw’n golygu y bydd enillydd y gêm olaf yr wythnos nesaf rhwng Caerfaddon a Harlequins yn cipio safle terfynol y gemau ail gyfle, ar ôl i’r Quins gipio buddugoliaeth hwyr o 30-29 dros Gaerwysg.
Phill Dollman oedd yr unig Gymro i ddechrau i Gaerwysg, gyda Craig Mitchell a Tom James yn dod oddi ar y fainc.
Llwyddodd Will James a Chaerloyw i drechu Gwyddelod Llundain o 38-30, oedd yn golygu siom i Ian Gough, Darren Allinson ac Andy Fenby.
Ac fe enillodd Wasps 44-38 yn erbyn Newcastle, gyda Warren Fury’n dod oddi ar fainc y tîm wnaeth golli.
Seren yr wythnos: Owen Williams – perfformiad cryf arall ganddo i Gaerlŷr.
Siom yr wythnos: James Hook – chwarae’n dda’r tymor hwn ond Perpignan yn siomedig, ac felly mae’n bur debygol na fydd yn gwisgo crys y Catalaniaid y tymor nesaf.