Joe Allen
Fe sgoriodd Joe Allen ei gôl gyntaf yn y gynghrair i Lerpwl neithiwr wrth iddyn nhw garlamu ar y blaen o 3-0 yn erbyn Crystal Palace – ond fe orffennodd ei noson ef a’i dîm yn drychinebus.
Peniodd Allen y gyntaf o dair gôl Lerpwl, a gyda chwarter awr yn weddill roedden nhw’n edrych yn gyfforddus yn erbyn tîm Joe Ledley.
Ond yna fe sgoriodd Palace dair gôl mewn naw munud i unioni’r sgôr, canlyniad sydd yn dryllio gobeithion Lerpwl o gipio’r gynghrair gydag wythnos yn weddill, a gwneud Man City’n ffefrynnau clir.
Fe seliwyd tynged Caerdydd dros y penwythnos hefyd wrth iddyn nhw gael crasfa arall am yr ail wythnos yn olynol yng ngogledd orllewin Lloegr, y tro hwn i Newcastle a Paul Dummett.
Chwaraeodd Declan John gêm lawn, gyda Craig Bellamy’n dod ymlaen wedi’r egwyl, ond bu’r golled o 3-0 yn ddigon i gadarnhau na fydd yr Adar Gleision yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
Colli oedd hanes Abertawe hefyd o 1-0 yn erbyn Southampton, gyda thriawd Ashley Williams, Ben Davies a Neil Taylor yn ymddangos yn yr amddiffyn, ond doedd fawr o ots am hynny gyda’r tîm eisoes yn saff.
Gareth Bale oedd un o’r unig Gymry i gael wythnos dda, wrth i Real Madrid sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda buddugoliaeth swmpus o 4-0 dros Bayern Munich, a Bale yn creu’r drydedd i Ronaldo.
Er iddyn nhw gael gêm gyfartal yn unig o 2-2 yn erbyn Valencia dros y penwythnos mae Real hefyd wedi cau’r bwlch ar frig La Liga i ddau bwynt, ar ôl i Atletico golli’n syfrdanol i Levante.
Yn y Bencampwriaeth fe sicrhaodd Birmingham eu bod yn aros yn y gynghrair gyda gôl yn y munud olaf yn erbyn Bolton, ond roedd Emyr Huws eisoes wedi cael ei eilyddio ar yr egwyl.
Roedd y gôl honno’n gyfrifol am anfon David Cotterill a Doncaster i lawr, ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Caerlŷr ac Andy King.
Ac roedd hi’n dorcalon i Chris Gunter a Hal Robson-Kanu ar ôl i Reading fethu allan ar y gemau ail gyfle, wrth i Brighton gipio’u lle gyda buddugoliaeth hwyr yn erbyn David Vaughan a Nottingham Forest.
Yng ngweddill y gynghrair fe chwaraeodd Jack Collison, Shaun MacDonald, Joel Lynch a Steve Morison.
Torcalon oedd hi i Tranmere hefyd wrth iddyn nhw ddisgyn o Gynghrair Un, a hynny ar ôl colli 2-1 i Bradford – Jason Koumas ac Ash Taylor oedd unig Gymry a chwaraeodd.
Fe orffennodd Wolves eu tymor mewn steil gan guro Carlisle 3-0, Sam Ricketts yn rhwydo’r gyntaf gydag ergyd dda ar ei droed chwith, a Dave Edwards hefyd yn chwarae.
Ac yn yr Alban fe greodd Adam Matthews ddwy gôl gyntaf Celtic wrth i’r pencampwyr drechu Aberdeen.
Seren yr wythnos: Joe Allen – ei gôl gyntaf yn y gynghrair i Lerpwl. Ond fydd hynny’n fawr o gysur iddo heddiw.
Siom yr wythnos: Owain Fôn Williams – anaf i’r werddyr yn golygu’i fod wedi methu ag achub Tranmere.