Mark Selby
Fe wnaeth Mark Selby gipio buddugoliaeth o enau Ronny O ‘Sullivan neithiwr i ennill rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn y Crucible yn Sheffield.
Roedd y gŵr 30 oed o Gaerlŷr yn colli 8-3 ac 10-5 yn erbyn y chwaraewr profiadol Ronny O ‘Sullivan ond fe drodd pethau ben i waered a churo 18-14 i ennill ei deitl Pencampwr Byd cyntaf.
Roedd Ronny O ‘Sullivan, sydd erioed wedi colli yn rownd derfynol y bencampwriaeth, yn ceisio ennill ei drydydd teitl yn olynol a’r chweched yn ei yrfa.
Wrth godi cwpan yr enillydd, fe wnaeth Selby gofio am ei dad, fu farw pan oedd o’n 16 oed:
“Bu farw fy nhad o ganser ddau fis cyn i mi droi yn broffesiynol, a’i eiriau olaf i mi oedd, ‘Dw i isio i ti fod yn bencampwr byd’. Mae hyn i gyd er cof amdano fo,” meddai Mark Selby.
Bydd Selby yn derbyn £300,000 am ennill y bencampwriaeth.