Cipiodd troellwr llaw chwith Morgannwg, Dean Cosker bum wiced mewn batiad am yr ail waith eleni, wrth i Swydd Gaerwrangon gael eu bowlio allan am 240 ar ail fore’r ornest yn Stadiwm Swalec.

Sicrhaodd daliad campus gan y wicedwr Mark Wallace fod Cosker yn cipio wiced Darryl Mitchell (109) ac yn gorffen y batiad gyda phum wiced am 39 o rediadau.

Daw’r llwyddiant diweddaraf wedi iddo gipio pum wiced yn y gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.

Bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Graham Wagg oedd y cyfrannwr sylweddol arall ymhlith bowlwyr Morgannwg, gan orffen gyda phedair wiced am 75.

Wagg sydd ar frig y rhestr am y nifer fwyaf o wicedi yn y Bencampwriaeth y tymor hwn gydag 20.