Colli fu hanes Siroedd Llai Cymru mewn gornest gwpan yn erbyn Swydd Dorset yn Bournemouth heddiw.
Gosododd Swydd Dorset nod o 177 i’r ymwelwyr.
Seren batiad y tîm cartref oedd Max Waller, a sgoriodd 91 o rediadau oddi ar 143 o belenni, gan gynnwys pum ergyd i’r ffin.
Yn ystod y batiad, cipiodd Jeremy Lawler 4 wiced am 28 gan gwtogi Swydd Dorset i sgôr oedd o fewn cyrraedd y Cymry.
Ond chwalu wnaeth batwyr Siroedd Llai Cymru, a chael eu bowlio allan am 144.
Tom Baker oedd y sgoriwr uchaf (37*), ond doedd ei gyfraniad ddim yn ddigon wrth i Siroedd Llai Cymru gael eu bowlio allan am 144.
Cafodd y wicedi eu rhannu rhwng bowlwyr Swydd Dorset, gyda Tom Hicks a chwaraewr Gwlad yr Haf, Max Waller yn cipio tair yr un, dwy i Mark Wolstenholme ac un i James Hayman.