Connacht 15–22 Gleision Caerdydd
Mae diweddglo da’r Gleision i’r tymor yn y RaboDirect Pro12 yn parhau wedi iddynt drechu Connacht ym Maes Chwarae Gallway.
Doedd hi ddim yn hanner cyntaf da iawn i’r Cymry serch hynny wedi i geisiau Matt Healy a Robbie Henshaw ynghyd â phum pwynt o droed Miah Nikora roi mantais gyfforddus o 15-3 i’r Gwyddelod ar yr egwyl.
Roedd y Gleision dipyn gwell yn yr ail gyfnod ac roeddynt ar y blaen ar yr awr yn dilyn un cais cosb ac un i Lewis Jones.
Gorffennodd Connacht y gêm gyda dau chwaraewr yn y gell gosb ac fe fanteisiodd yr ymwelwyr o Gymru yn llawn wrth i gais hwyr Dan Fish sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision dros Gaeredin i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12 gydag un gêm i fynd.
.
Connacht
Ceisiau: Matt Healy 26’, Robbie Henshaw 45’
Trosiad: Miah Nikora 26’
Cic Cosb: Miah Nikora 22’
Cardiau Melyn: Aly Muldowney 69’, Eoin McKeon 75’
.
Gleision Caerdydd
Ceisiau: Cais Cosb 56’, Lewis Jones 59’, Dan Fish 69’
Trosiadau: Gareth Davies 57’, 59’
Cic Gosb: Gareth Davies 40’