Casnewydd 2–1 Rochdale

Gorffennodd Casnewydd eu tymor cyntaf yn ôl yn y gynghrair bêl droed gyda buddugoliaeth gartref ar Rodney Parade yn erbyn Rochdale.

Un gôl yr un oedd hi cyn i Kevin Feely rwydo gôl hwyr i Gasnewydd gan gipio tri phwynt yn erbyn y tîm sydd eisoes wedi esgyn.

Rhoddodd George Donnelly yr ymwelwyr ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr yn dilyn gwaith creu Jamie Allen.

Roedd Casnewydd yn gyfartal erbyn yr egwyl wedi i Robbie Willmott greu gôl i Aaron O’Connor yn ei gêm gyntaf yn ôl wedi anaf.

Roedd hi’n ymddangos y byddai Rochdale yn cipio’r pwyntiau i gyd pan ddyfarnwyd cic o’r smotyn iddynt. Cafodd Ian Henderson ei lorio yn y cwrt cosbi gan Ryan Jackson, cafodd Jackson ei anfon o’r cae ond fe fethodd Matthew Lund yn gic.

A deg dyn Casnewydd enillodd y gêm yn y munudau olaf pan beniodd Feely gic rydd Willmott i gefn y rhwyd.

Golyga’r fuddugoliaeth fod Casnewydd yn gorffen eu tymor cyntaf yn yr Ail Adran yn y pedwerydd safle ar ddeg.

.

Casnewydd

Tîm: McLoughlin, Feely, Hughes, Willmott, Jackson, Blake, Chapman, Porter, Zebroski (Jeffers 81′), O’Connor (Jolley 66′), Flynn (Minshull 74′)

Goliau: O’Connor 41’, Feely 88’

Cerdyn Melyn: Minshull 82’

Cerdyn Coch: Jackson 84’

.

Rochdale

Tîm: Lillis, Rose (Done 73′), Bennett, Lund, O’Connell, Lancashire, Vincenti, Hery (Lynch 56′), Henderson, Donnelly (Bunney 72′), Allen

Gôl: Donnelly 28’

Cardiau Melyn: Lund 65’, Henderson 90’

.

Torf: 4,662