Abertawe 0–1 Southampton

Ildiodd Abertawe gôl hwyr yn erbyn Southampton brynhawn Sadwrn wrth golli gêm olaf y tymor ar y Liberty.

Di sgôr oedd hi am naw deg munud a mwy ond daeth Ricky Lambert i’r cae i sgorio unig gôl y gêm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar y diwedd.

Prin oedd cyfleoedd y ddau dîm mewn gêm ddigon diflas. Sam Gallagher a ddaeth agosaf i’r ymwelwyr a Wilfred Bony i’r Elyrch.

A phan ddaeth y gôl yn y diwedd roedd hi’n un braidd yn siomedig o safbwynt amddiffyn Abertawe. Collodd Ashley Williams y meddiant mewn man peryglus ac roedd blaenwr y Seintiau, Lambert, wrth law i fanteisio.

Mae Abertawe’n llithro i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl o ganlyniad ac mae eu gobeithion o orffen y tymor yn yr hanner uchaf ar ben wedi iddynt golli eu gêm gartref olaf.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Tiendalli (Taylor 77′), Davies, Shelvey, Amat, Williams, De Guzmán (Dyer 66′), Britton, Bony, Hernández (Emnes 77′), Routledge

Cerdyn Melyn: Emnes 82’

.

Southampton

Tîm: Boruc, Clyne, Shaw, Wanyama, Fonte, Lovren, Cork (Reed 86′), Schneiderlin, Gallagher (Ward-Prowse 78′), Lallana (Lambert 62′), Davis

Gôl: Lambert 90’

Cerdyn Melyn: Fonte 59’

.

Torf: 20,682