Newcastle 3–0 Caerdydd
Daeth arhosiad Caerdydd yn Uwch Gynghrair Lloegr i ben brynhawn Sadwrn wrth iddynt golli yn erbyn Newcastle ar Barc St James.
Roedd talcen caled yn wynebu’r Adar Gleision cyn y gêm ac roedd mynydd ganddynt i’w ddringo wedi i Shola Ameobi roi Newcastle ar y blaen wedi deunaw munud. Ychwanegodd Loic Remy a Steven Taylor ddwy gôl hwyr wrth i’r tymor fynd o ddrwg i waeth i’r Cymry.
Doedd pethau ddim yn argoeli’n dda i Gaerdydd wedi i Ameobi benio’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Moussa Sissoko yn chwarter cyntaf y gêm.
Bu bron i Sissoko ddyblu’r fantais yn fuan wedyn ond tarodd ei gynnig yn erbyn y trawst ond arhosodd Newcastle ar y blaen tan hanner amser.
Diflannodd rhai o gefnogwyr y tîm cartref mewn protest yn yr ail hanner ac fe fethodd y rheiny ddwy gôl arall gan eu tîm!
Rhwydodd Remy yr ail a bu bron i’r Ffrancwr rwydo’r drydedd hefyd ond roedd Taylor wrth law i sgorio ar yr ail gynnig.
Roedd hynny’n hen ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Newcastle ac i ddanfon Caerdydd yn ôl i’r Bencampwriaeth.
.
Newcastle
Tîm: Krul, Debuchy, Dummett (Haidara 45′), Tioté, Williamson, Coloccini, Sissoko, Anita (Taylor 79′), Sh Ameobi, Remy, Gouffran (Gosling 70′)
Goliau: Sh. Ameobi 18’, Remy 86’, Taylor 90’
Cerdyn Melyn: Debuchy 68’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Fabio (Wolff Eikrem 86′), John, Mutch, Caulker, Turner, Zaha, Whittingham, Campbell (Jones 73′), Gunnarsson, Kim (Bellamy 45′)
.
Torf: 50, 239