Aberystwyth 2–3 Y Seintiau Newydd

Cwblhaodd y Seintiau Newydd y dwbl gyda buddugoliaeth dros Aberystwyth yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar y Cae Ras, Wrecsam, brynhawn Sadwrn.

Roedd Aberystwyth ddwy gôl ar y blaen wedi llai na chwarter awr ond tarodd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn ôl gyda thair gôl yn yr ugain munud olaf.

Hanner cyntaf

Cafodd Aberystwyth ddechrau anhygoel gyda dwy gôl gan Chris Venables yn y chwarter awr cyntaf.

Agorodd prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru’r sgorio wedi deg munud gyda foli daclus yn dilyn cic rydd Craig Williams.

Ychwanegodd Venables yr ail o’r smotyn dri munud yn ddiweddarach wedi i Sam Finley lorio Mark Jones yn y cwrt cosbi.

Bu rhaid aros tan ddiwedd yr hanner cyn i’r Seintiau ddechrau chwarae ond doedd dim gôl i fod cyn yr egwyl. Cafodd cynnig Finley o bellter ei arbed yn rhwydd a gwastraffodd Matty Williams gyfle da â’i ben.

Ail Hanner

Roedd y Seintiau yn dipyn gwell wedi’r egwyl ac fe ddechreuodd Aber amddiffyn yn ddyfnach ac yn ddyfnach wrth i’r hanner fynd yn ei flaen.

Cafodd Mike Wilde gyfle da i dynnu un yn ôl ond peniodd yn syth at Mike Lewis yn y gôl.

Roedd Peter Hoy yn ffodus i beidio ildio cic o’r smotyn pan lawiodd y bêl yn y cwrt cosbi ugain munud o’r diwedd ond nid oedd mor lwcus dri munud yn ddiweddarach pan ildiodd gic o’r smotyn am union yr un drosedd eto. Rhwydodd yr eilydd, Greg Draper, y gic o’r smotyn ac roedd y Seintiau yn ôl yn y gêm.

Roedd y sgôr yn gyfartal ddeuddeg munud o’r diwedd wedi i Draper benio ei ail o gic rydd gywir Chris Marriott.

Cafodd Draper gyfle da i’w hennill hi’n fuan wedyn ond gwnaeth Wilde hynny dri munud o ddiwedd y naw deg gyda foli o groesiad Simon Spender.

Cafodd Stuart Jones hanner cyfle i orfodi amser ychwanegol ond peniodd amddiffynnwr canol Aber heibio’r postyn wrth i’r Seintiau ddal eu gafael i ychwanegu’r Cwpan at y Gynghrair.

.

Aberystwyth

Tîm: Lewis, Corbisiero, Hoy, S. Jones, Venables, M. Jones, Kellaway, Davies, Sherbon, Williams (Nalborski 82’), Thomas

Goliau: Venables 10’, [c.o.s.] 13’

Cardiau Melyn: Davies 11’, Williams 74’, Venables 89’, Kellaway 90’

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Edwards, Marriott, Baker, Jones (Mullan 46’), Edwards, Seargeant (Spender 68’), Finley, Wilde, Williams (Draper 60’), Fraughan

Goliau: Draper [c.o.s.] 74’, 79’, Wilde 87’

Melyn: Marriott 25’, Harrison 26’, Seargeant 45’, Fraughan 82’

.

Torf: 1,273