Scarlets 34–23 Dreigiau Casnewydd Gwent

Sicrhaodd y Scarlets eu lle ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf gyda buddugoliaeth dros y Dreigiau ar Barc y Scarlets nos Wener.

Mae Bois y Sosban bellach yn sicr o orffen y tymor yn chwech uchaf y RaboDirect Pro12 yn dilyn gêm gyffrous lawn ceisiau yn erbyn eu cyd Gymry.

Hanner Cyntaf

Er i gic gosb Kris Burton roi’r Dreigiau ar y blaen, y Scarlets a gafodd gais cyntaf y gêm pan ymestynnodd Jake Ball drosodd wedi chwarter awr.

Cafodd y tîm cartref gyfnod da wedi hynny ac roeddynt mewn safle cyfforddus iawn ddeg munud cyn yr egwyl diolch i gais yr un i Gareth Davies a Jordan Williams.

Croesodd y mewnwr, Davies, gyda rhediad deheuig o fôn y ryc cyn i Williams gwblhau symudiad gorau’r gêm yn dilyn bylchiad da Jonathan Davies.

Rhoddodd trydydd trosiad Rhys Priestland y Scarlets 21 pwynt ar y blaen gydag ychydig funudau i fynd tan yr hanner ond cafodd y Dreigiau ddiweddglo da i’r deugain agoriadol.

Llwyddodd Burton gyda chic gosb i ddechrau cyn rhyng-gipio pas Priestland i greu cais i Tom Prydie. 24-13 y sgôr wedi trosiad Burton.

Ail Hanner

Parhau a wnaeth adfywiad y Dreigiau ar ddechrau’r ail gyfnod gyda Burton yn cau’r bwlch ym mhellach gyda thrydedd cic gosb.

Roedd hi’n gêm hynod agored gyda’r ddau dîm yn ceisio rhedeg y bêl o ddyfnder. Wedi dweud hynny, bôn braich un o’r blaenwyr sicrhaodd y canlyniad a’r pwynt bonws wrth i Ken Owens hyrddio drosodd am bedwerydd cais y Scarlets.

Sgoriodd Prydie ei ail ef ac ail ei dîm ar yr awr yn dilyn gwrthymosodiad gwych o’u llinell eu hunain gan y Dreigiau ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hynny mewn gwirionedd ac fe ddiogelodd Priestland y pwyntiau gyda chic gosb hwyr i’r Scarlets.

Mae’r canlyniad yn sicrhau’r chweched safle hollbwysig i’r Scarlets ond fe all y Dreigiau orffen ar waelod y Pro12 o hyd, maent yn ddegfed, ddau bwynt o’r gwaelod gydag un gêm ar ôl.

.

Scarlets

Ceisiau: Jake Ball 16’, Gareth Davies 27’, Jordan Williams 31’, Ken Owens 47’

Trosiadau: Rhys Priestland 16’, 28’, 32’, 48’

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 24’, 69’

.

Dreigiau

Ceisiau: Tom Prydie 40’, 59’

Trosiadau: Kris Burton 40’, Jason Tovey 60’

Ciciau Cosb: Kris Burton 11’, 39’, 42’

Cerdyn Melyn: T. Rhys Thomas 50’