Mae dau newid yng ngharfan Siroedd Llai Cymru ar gyfer eu taith i Bournemouth i herio Swydd Dorset ddydd Sul.

Daw Kiran Carlson a Dewi Penrhyn Jones i mewn i’r garfan o ddeuddeg dyn yn lle Jon Denning a bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Alex Jones.

Carlson fydd deuddegfed dyn Siroedd Llai Cymru.

Cafodd gêm gynta’r Cymry y tymor hwn yn erbyn Cernyw ei chanslo heb i’r un belen gael ei bowlio.

Byddan nhw’n herio tîm Swydd Dorset sy’n cynnwys tipyn o brofiad dosbarth cyntaf.

Ymhlith carfan y tîm cartref mae’r batiwr Alex Waller a’r bowliwr James Hayman sydd wedi cynrychioli Gwlad yr Haf, yn ogystal â Jake Lintott sydd wedi chwarae dros ail dîm y sir.

Hefyd yn eu plith, mae dau o chwaraewyr sydd wedi bod yn aelodau academi Swydd Hampshire, Mike Porter a Ryan Scott, y deuddegfed dyn ddydd Sul.

Siroedd Llai Cymru: A Norman, G Lawlor, G Holmes, G Davies, C Reid, T Baker, D Thomas (capten), S Pearce, N Davies, D P Jones, R Edwards, K Carlson

Swydd Dorset: M Waller, M Porter, J Lawrence, J Lintott, A Williams, C Park (capten), T Hicks, E Denham, M Wolstenholme, S Thomson, J Hayman, R Scott