Mae Morgannwg yn parhau’n ddi-guro yn ail adran y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw groesawu’r tîm sydd ar y brig, Swydd Gaerwrangon i Stadiwm Swalec ddydd Sul.

Ers eu buddugoliaeth yn erbyn Swydd Surrey ar gae’r Oval i agor y tymor, mae’r Cymry wedi sicrhau dwy gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaerloyw a Swydd Gaerlŷr, ac maen nhw yn y pedwerydd safle.

Eisoes y tymor hwn, mae Swydd Gaerwrangon wedi curo Swydd Gaint a Swydd Derby.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn Stadiwm Swalec pan gyfarfu’r ddwy sir y tymor diwethaf, wrth i Jim Allenby sgorio 78 a chipio pedair wiced am 27 i’r Cymry.

Cipiodd Mike Reed bum wiced am 27 hefyd ym muddugoliaeth gyntaf Morgannwg dros Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd ers 1971.

Yr ymwelwyr

Ond Swydd Gaerwrangon enillodd yr ornest yn New Road o wyth wiced, diolch i 250 gan Moeen Ali cyn i Forgannwg orfod canlyn ymlaen.

Mae Moeen Ali bellach yng ngharfan Lloegr, sy’n golygu bod yr ymwelwyr wedi arwyddo seren undydd Lloegr, Alex Hales ar fenthyg o Swydd Nottingham.

Mae’r ymwelwyr hefyd wedi cynnwys troellwr Pacistan, Saeed Ajmal yn y garfan.

Chwaraewyr newydd i Forgannwg

Mae Michael Hogan wedi dychwelyd adref ar gyfer genedigaeth ei ferch fach, ac mae Morgannwg wedi arwyddo bowliwr cyflym arall ar fenthyg er mwyn llenwi’r bwlch.

Mae’r bowliwr cyflym 19 oed o Middlesex, Tom Helm yn ymuno â Morgannwg ar fenthyg am fis.

Mae’r chwaraewr addawol yn aelod o Raglen Berfformio Lloegr yn Loughborough ac fe fydd e ar gael ar gyfer gemau Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn ogystal â’r Bencampwriaeth.

Bowliwr cyflym arall Morgannwg, Graham Wagg sydd ar frig rhestr y chwaraewyr mwyaf gwerthfawr (FTI MVP) ymhlith yr holl siroedd yr wythnos hon, ochr yn ochr â bowliwr cyflym Lloegr, Steven Finn.

Mae Morgannwg hefyd wedi arwyddo’r batiwr llaw chwith Tom Lancefield, a gafodd ei ryddhau gan Swydd Surrey cyn ymuno am gyfnod ag ail dîm Morgannwg.

Mae’n symud i Forgannwg ar gytundeb blwyddyn o hyd.

Daw Ruaidhri Smith yn ôl i’r garfan yn dilyn cyfnod i ffwrdd o griced oherwydd ei arholiadau yn y brifysgol.

Mae Helm a Smith yn y garfan yn lle David Lloyd a John Glover.

Morgannwg: J Rudolph, G Rees, W Bragg, M Goodwin, S Walters, J Allenby, M Wallace (capten), G Wagg, R Smith, W Owen, D Cosker, T Helm.

Swydd Gaerwrangon: D Mitchell (capten), M Pardoe, A Hales, T Kohler-Cadmore, A Kervezee, R Whiteley, B Cox, G Andrew, J Shantry, C Morris, Saeed Ajmal, N Harrison