Mae 23% o ddarllenwyr Golwg360 a bleidleisiodd yn ein pôl piniwn wedi dweud mai rheolwr Borussia Dortmund, Jürgen Klopp yr hoffen nhw ei weld yn cael ei benodi’n rheolwr Man U.

Mae’r Cymro a rheolwr dros dro Man U, Ryan Giggs sy’n ail gyda 21% o’r pleidleisiau.

Dim ond 18% o’r pleidleisiau gafodd ffefryn y bwcis, Louis van Gaal.

Diego Simeone a Syr Alex Ferguson (8% yr un), a Jose Mourinho (5%) sy’n cwblhau’r bleidlais.

Gyda thair gêm yn unig yn weddill o’r tymor, mae adroddiadau’n awgrymu bod van Gaal eisoes wedi dechrau trafod y swydd gyda pherchnogion y clwb ac y gallai gael ei benodi o fewn wythnos.

Ond ni fyddai hyfforddwr presennol yr Iseldiroedd yn cymryd yr awennau tan ar ôl Cwpan y Byd yn yr haf.

Pe bai’n cael ei benodi, mae adroddiadau’n awgrymu mai Giggs fyddai ei is-hyfforddwr.

Eisoes yn unig gêm Giggs wrth y llyw, sicrhaodd Man U fuddugoliaeth o 4-0 adref yn erbyn Norwich.

Byddan nhw’n croesawu Sunderland a Hull i Old Trafford cyn teithio i Southampton ar ddiwrnod olaf y tymor.

Canlyniadau:

Ryan Giggs: 20.51%

Jürgen Klopp: 23.08%

Louis van Gaal: 17.95%

Jose Mourinho: 5.13%

Diego Simeone: 7.69%

Syr Alex Ferguson: 7.69%

Arall: 17.95%

Dadansoddiad Alun Rhys Chivers:

Ychydig ddiwrnodau ar ôl agor y pôl, daeth cadarnhad fod Jürgen Klopp wedi dweud na fyddai’n rhoi ei enw yn yr het ar gyfer y swydd.

Mae canlyniadau’r pôl yn awgrymu fod y newyddion yn siom i bron chwarter o ddarllenwyr Golwg360 a bleidleisiodd.

Roedd disgwyl i’r Almaenwr gael cynnig y swydd ddeg mis yn ôl ond bryd hynny, protégé Syr Alex Ferguson, David Moyes gafodd ei benodi.

Roedd hi’n ymddangos fod awr fawr Klopp wedi mynd a dod, ond mae llwyddiant Borussia Dortmund o dan y rheolwr carismatig yn parhau.

Maen nhw eisoes wedi sicrhau’r ail safle yn y Bundesliga y tu ôl i Bayern Munich, ac fe fydd y ddau dîm yn herio’i gilydd yn ffeinal Cwpan DFB Pokal ymhen pythefnos.

Byddai arweiniad Klopp yn ystod y deg mis diwethaf o bosib wedi codi Man U yn uwch na’r seithfed safle maen nhw’n canfod eu hunain ynddo ar hyn o bryd.

Wedi’r cyfan, yr un tîm sydd gan Man U, i bob pwrpas, ag oedd ganddyn nhw’r tymor diwethaf pan enillon nhw’r Uwch Gynghrair.

Mae Giggs eisoes wedi dangos ei botensial fel rheolwr ond mae’n hawdd camu i mewn am ychydig wythnosau i geisio codi tîm sydd wedi disgyn llawer is na’u safonau uchel arferol.

A fyddai Giggs yn gallu cynnal y safon dros dymor cyfan sy’n gwestiwn arall.

At ffefryn y bwcis, Louis van Gaal, felly.

Mae’r enw ynddo’i hun yn ddigon i ddychryn y gwrthwynebwyr.

A dyna’n union sydd wedi bod ar goll yn Old Trafford y tymor hwn – dydy timau ddim wedi bod ofn mynd i’r stadiwm oedd yn gadarnle pêl-droed yn Lloegr am ddau ddegawd.

Mae golwg sydyn ar ei record gyda rhai o dimau mwyaf Ewrop yn profi fod gan van Gaal y gallu i wydroi’r sefyllfa ym Man U a’u codi’n ôl i frig yr Uwch Gynghrair unwaith eto.

Yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Ajax, enillodd y gynghrair ddwy waith, Cwpan UEFA yn 1992, Cynghrair y Pencampwyr, Cwpan Toyota (Intercontinental) a’r Super Cup yn 1995 a cholli ffeinal Cynghrair y Pencampwyr y tymor canlynol.

Parhaodd ei lwyddiant yn y Camp Nou, gan ennill y gynghrair ddau dymor o’r bron gyda Barcelona rhwng 1997 a 1999.

Ddiwedd tymor 2002, cafodd ei enwi’n ffefryn i olynnu Ferguson yn Old Trafford ond penderfynodd y Sgotyn beidio ymddeol.

Cafodd van Gaal rai blynyddoedd llwm cyn symud i Bayern Munich yn 2009, lle bu bron iddo efelychu trebl Fergie cyn i’r Almaenwyr golli ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Barcelona.

Tymor o ail-adeiladu fyddai o flaen van Gaal yn Old Trafford y tymor nesaf ond os yw’r perchnogion yn barod i ddangos ffydd ynddo, fe allai’r Iseldirwr gael cyfle euraid i ychwanegu ei enw at lyfrau hanes Man U.

Does ond gobeithio y byddai cyfle i Giggs gael chwarae ei ran yntau hefyd fel rhan o dîm cynorthwyol van Gaal.

Gwyliwch y gofod…