Mi fydd maswr y Gleision Gareth Davies yn gwneud ei hanner canfed ymddangosiad i’r rhanbarth ac mae wedi cipio 118 o bwyntiau i’r Glesion cyn belled. Mae hyfforddwyr y Gleision Dale McIntosh a Paul John wedi gwneud tri newid i’r tîm a gurodd y Scarlets bythefnos yn ôl.
Mi fydd yr asgellwr Harry Robinson yn cymryd lle Chris Czekaj a Lloyd Williams fydd yn dechrau yn lle Lewis Jones yn safle’r mewnwr. Dim ond un newid sydd ymysg y blaenwyr wrth i Ellis Jenkins ddisodli Robin Copeland tu ôl i’r sgrym.
‘‘Ar ôl y gêm yn erbyn y Scarlets ni wnaethom ymarfer am wythnos, roedd hyn yn gylfe i’r bechgyn ymlacio ac ail-gydio yn eu hegni ar gyfer y gemau i ddod. Mae gan Connacht dîm da ac mae’n anodd i’w chwarae yn Galway,’’ meddai McIntosh.
Tîm y Gleision
Olwyr – Dan Fish, Alex Cuthbert, Cory Allen, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Gareth Davies a Lloyd Williams.
Blaenwyr – Gethin Jenkins, Matthew Rees (Capten), Taufa’ao Filise, Bradley Davies, Filo Paulo, Macauley Cook, Josh Navidi a Ellis Jenkins.
Eilyddion – Kristian Dacey, Thomas Davies, Scott Andrews, Chris Dicomidis, Luke Hamilton, Lewis Jones, Simon Humberstone a Isaia Tuifua.