Yfory fe fydd Caerdydd yn herio Newcastle yn St James’ Park yn y gobaith o gipio buddugoliaeth i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Er gwaethaf colli yn erbyn Sunderland 4-0 y penwythnos diwethaf, mae rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer yn parhau’n bositif ac yn targedu dwy fuddugoliaeth yn y gemau sy’n weddill o’r tymor gan ddechrau yfory yn erbyn Newcastle.
‘‘Mae’n bosibl i ni i ddianc rhag cwympo gyda buddugoliaethau, ond mae angen i rai canlyniadau fynd o’n plaid. Rwy’n ffyddiog y gallwn chwarae’n dda yfory gan gipio’r pwyntiau,’’ meddai Solskjaer.
‘‘Allwch chi ddim teimlo trueni dros eich hun. Mae’r chwaraewyr yn gwybod am yr her sydd o’u blaenau. Rydym ni’n ymwybodol bod angen canlyniadau ond hefyd ‘bach o lwc nawr ac yn y man,’’ ychwaegodd Solskjaer.
Ar ôl penwythnos yma fe fydd Caerdydd yn herio Chelsea yng ngêm ola’r tymor yn Stadiwm Dinas Caerdydd.