Wrth baratoi ar gyfer y tymor nesaf, mae’r Dreigiau Casnewydd Gwent yn moderneiddio a diweddaru eu brand am y tro cyntaf ers 2003.

Wrth iddyn nhw gystadlu am Gwpan y Pencampwyr Rygbi Ewropeaidd newydd, yn ogystal â pharhau yn y PRO12 a Chwpan yr LV, mae’r tymor 2014/15 yn argoeli i fod yn un gyffrous i’r Dreigiau.

Mae’r Dreigiau wedi gofyn i’r cefnogwyr ddewis logo ar gyfer y tymor nesaf.  Mae yna ddewis o dri logo, a pha bynnag un sydd â’r mwyaf o bleidleisiau erbyn pump o’r gloch ddydd Mawrth, y chweched o Fai fydd yn ennill.

Gallwch bleidleisio am eich hoff logo ar wefan y Dreigiau, www.yourdragons.co.uk.