Zebre 30–27 Gweilch

Mae gobeithion y Gweilch o gyrraedd gemau cynderfynol y RaboDirect Pro12 drosodd yn dilyn colled siomedig yn erbyn Zebre yn y Stadio XXV Aprile nos Iau.

Roedd angen buddugoliaeth o leiaf, a phwynt bonws yn fwy na thebyg ar y tîm o Gymru os am unrhyw obaith o orffen yn y pedwar uchaf ar ddiwedd y tymor arferol. Roedd hynny o fewn eu gafael gyda munud o’r wyth deg yn weddill ond collodd y Cymry’r bêl wrth geisio pedwerydd cais ac fe sgoriodd Zebre yn y pen arall i gipio’r fuddugoliaeth o’u gafael hefyd.

Hanner Cyntaf

Roedd y Gweilch yn hynod siomedig yn y deugain munud agoriadol a chawsant eu cosbi wrth i Zebre fynd ddeg pwynt ar y blaen yn y chwarter awr cyntaf.

Llwyddodd Luciano Orquera gyda chic gosb i ddechrau cyn trosi cais yr asgellwr, Giovanbattista Venditti, ar ôl ei greu ei hun gyda bylchiad a phas dda.

Sgoriodd Dan Biggar bwyntiau cyntaf y Gweilch hanner ffordd trwy’r hanner. Cyfnewidiodd y ddau faswr dri phwynt yr un yn fuan wedi hynny hefyd ond adferodd Orquera ddeg pwynt o fantais yr Eidalwyr gyda chic olaf yr hanner.

Ail Hanner

Dechreuodd y Gweilch yr ail hanner dipyn gwell ac roedd Justin Tipuric wedi croesi o dan y pyst o fewn munud yn dilyn bylchiad yr wythwr addawol, Dan Baker. 16-13 yn dilyn trosiad Biggar.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf wedyn pan groesodd Ashley Beck am gais ar ôl cyfuno’n dda gyda’i gyd ganolwr, Andrew Bishop.

Roedd y Gweilch un ar ddeg pwynt ar y blaen wedi i Alun Wyn Jones ymestyn drosodd o fôn ryc am drydydd cais chwarter awr o’r diwedd, ac yn bwysicach efallai, un cais i ffwrdd o’r pwynt bonws.

Ond rhoddodd amddiffyn gwael y Gweilch lygedyn o obaith i Zebre pan groesodd Brendon Leonard am ail gais ei dîm o dan y pyst.

Roedd y fuddugoliaeth yn ymddangos yn gymharol ddiogel serch hynny a doedd fawr o syndod gweld y Gweilch yn anelu am y pedwerydd cais holl bwysig wrth i ddiwedd y gêm agosáu.

Ond gwastraffodd Aisea Natoga’r meddiant yn nau ar hugain Zebre a gyda’r cloc yn goch, fe aeth y tîm cartref yr holl ffordd i ben arall y cae gan gipio’r gêm gyda chais i’r eilydd fewnwr, Guglielmo Palazzani.

Y Tabl

Mae’r Gweilch yn aros yn bumed yn y Pro12 er gwaethaf y canlyniad siomedig ond mae hi’n bur anhebyg bellach y byddant yn dal Ulster yn y pedwerydd safle.

Mae buddugoliaeth Zebre yn eu codi hwy ar y llaw arall o waelod y tabl i’r unfed safle ar ddeg, ond yn fwy arwyddocâol, yn eu codi dros eu cydwladwyr, Treviso, yn y frwydr am unig safle yr Eidal yn y brif gystadleuaeth Ewropeaidd y tymor nesaf.

.

Zebre

Ceisiau: Giovanbattista Venditti 12’, Brendon Leonard 69’, Guglielmo Palazzani 80’

Trosiadau: Luciano Orquera 13’, Tommaso Iannone 70’, 80’

Ciciau Cosb: Luciano Orquera 9’, 29’, 40’

Cerdyn Melyn: Samuela Vunisa 77’

.

Gweilch

Ceisiau: Justin Tipuric 41’, Ashley Beck 54’, Alun Wyn Jones 67’

Trosiadau: Dan Biggar 41’, 54’, 67’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 19’, 23’

Cerdyn Melyn: Alun Wyn Jones 80’