Garry Monk
Mae rheolwr tros dro Abertawe, Garry Monk, yn dweud ei fod yn “obeithiol” am gael y swydd yn barhaol ar ôl cael cyfarfod gyda Chadeirydd y clwb, Huw Jenkins.

Mae yna ddisgwyl penderfyniad yn fuan er mwyn rhoi’r cyfle i’r rheolwr parhaol baratoi ar gyfer y tymor newydd.

Mae Abertawe’n ddiogel yn yr Uwch Gynghrair ar ôl dwy fuddugoliaeth hwyr ond roedden nhw wedi cael cyfnod anodd cyn ac ar ôl diswyddiad Michael Laudrup ddechrau’r flwyddyn.

Siarad gyda Jenkins

“Dw i wedi siarad gyda’r Cadeirydd,” meddai Monk. “Fe fuon ni’n trafod yr hyn yr ydw i wedi ei wneud yn ystod y tymor a’r hyn yr ydw i’n gobeithio’i wneud yn y dyfodol.

“Dw i’n credu y bydd y Bwrdd yn cwrdd cyn diwedd y tymor ac, yn naturiol, dw i’n gobeithio cael y swydd.”

Anelu am 45

Y nod tymor byr yw ennill y ddwy gêm nesa’, yn erbyn Southampton a Sunderland, er mwyn cyrraedd cyfanswm o 45 o bwyntiau, sy’n cymharu gyda’r ddau dymor cynt.

‘‘Gyda phopeth sydd wedi digwydd yn ystod y tymor, byddai cael mwy na deugain pwynt yn ddigon derbyniol,” meddai Monk.

“R’yn ni wedi cael cyfnodau anodd a heb chwarae ar ein gorau ymmhob gêm ond r’yn ni wedi gwneud y gwaith.”