Bydd y Scarlets yn chwarae’r Dreigiau nos yfory ar Barc y Scarlets gyda’r gic gyntaf am 7:05yh.

Dim ond dau bwynt sydd ei angen ar y Scarlets i sicrhau eu lle yn y brif gystadleuaeth Ewropeaidd y tymor nesaf yn erbyn y Dreigiau.  Er i’r Scarlets ennill eu pum gêm ddiwethaf ar Barc y Scarlets byddant yn ceisio cael eu buddugoliaeth ddarbi gyntaf o’r tymor nos yfory.

Mae hyfforddwr y blaenwyr Danny Wilson yn edrych ymlaen at yr her.

‘‘Mae’r Dreigiau wedi chwarae yn erbyn timoedd mawr yn ddiweddar ac wedi rhoi perfformiadau da er nad ydynt wedi llwyddo i ennill.  Yr oeddem yn siomedig iawn wrth golli iddyn nhw oddi cartref. 

“Mae’r paratoi wedi bod yn dda yn ystod yr wythnos ac mae yna lawer o falchder yn perthyn i’r garfan ac rydym yn ymwybodol y bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau,’’ meddai Wilson.

‘‘Byddwn yn canolbwyntio yn galed i sicrhau ein bod yn gorffen yn y chwech uchaf ac yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf,’’ ychwanegodd Wilson.

Mae’r prif hyfforddwr Simon Easterby wedi gwneud tri newid ac un newid safle yn dilyn y golled yn erbyn y Gleision.

Bydd Capten y clwb yn dychwelyd i safle’r wythwr ar ôl bod yn dioddef o anaf.  Mae Josh Turnbull yn symud o rif wyth yn flaenasgellwr.  Mae Steven Shingler a Olly Barkley yn dechrau’r gêm.

Dim ond tri phwynt sydd gan y Dreigiau o’i chwe gêm olaf yn y Pro12.  Mae Cyfarwyddwr rygbi y Dreigiau wedi gwneud pedwar newid a un newid safle ar gyfer y gêm nos yfory.

Gyda dim ond dwy gêm yn weddill yng nghystadleuaeth y Pro12 mae Lyn Jones wedi targedu’r gêm nos yfory fel un i’w hennill.

‘‘Fe wnaethom ddechrau y tymor yn dda ond mae pethau wedi bod yn siomedig ers mis Chwefror.  Fe wnaethom chwarae yn well yn erbyn y Gweilch ac yr oeddem yn siomedig gyda’r canlyniad ar ôl rhoi cymaint o ymdrech yn y gêm,’’ dywedodd Nic Cudd, blaenasgellwr y Dreigiau.

Bydd Cudd yn chwarae yn erbyn ei gyn glwb ond dim ond gêm arall fydd hon iddo.

‘‘Ni wnaeth pethau weithio i mi gyda’r Scarlets ac fe wnes ddioddef sawl anaf.  Yr wyf wedi chwarae nifer o gemau i’r Dreigiau ac rwy’n credu bod y Scarlets yn falch fy mod yn medru chwarae gyda clwb arall,’’ ychwanegodd Cudd.

Bydd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Hallam Amos yn dechrau fel cefnwr i’r Dreigiau. Y ddau chwaraewr rhyngwladol Tom Prydie a Will Harries fydd yr asgellwyr a Pat Leach a Jack Dixon fydd yn rheoli canol cae.

Mae’r prop Phil Price a’r bachwr T Rhys Thomas yn cadw eu lle yn y rheng flaen gyda Bruce Douglas yn ymuno â nhw gyda Duncan Bell yn dechrau ar y fainc. 

Bydd y clo rhyngwladol Andrew Coombs yn dychwelyd i arwain y tîm gyda’r chwaraewr ifanc Matthew Screech yn ymuno ag ef.

Tîm y Scarlets

 

Olwyr – Steven Shingler, Kristian Phillips, Jonathan Davies (Capten), Olly Barkley, Jordan Williams, Rhys Priestland a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John, Ken Owens, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Josh Turnbull, John Barclay a Rob McCusker.

Eilyddion – Kirby Myhill, Rob Evans, Rhodri Jones, Johan Snyman, Aaron Shingler, Rhodri Williams, Gareth Maule a Frazier Climo.

 

Tîm y Dreigiau

 

Olwyr – Hallam Amos, Tom Prydie, Pat Leach, Jack Dixon, Will Harries, Kris Burton a Richie Rees.

 

Blaenwyr – Phil Price, T. Rhys Thomas, Bruce Douglas, Andrew Coombs (Capten), Matthew Screech, Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau.

 

Eilyddion – Sam Parry, Owen Evans, Duncan Bell, Jevon Groves, Darren Waters, Jonathan Evans, Jason Tovey a Tyler Morgan.