Mae Gareth Williams wedi ei benodi yn brif hyfforddwr amser llawn carfan saith bob ochr Cymru. 

Mae penodiad Williams yn dilyn penderfyniad Paul John ym mis Rhagfyr i adael y swydd er mwyn hyfforddi Gleision Caerdydd.

Fe fydd Undeb Rygbi Cymru yn gwneud nifer o newidiadau i ddatblygiad y system saith bob ochr yn ystod y misoedd nesaf er mwyn cystadlu yn gryf yng Nghyfres y Byd o’r IRB ac i gynnal y traddodiad o ddatblygu chwaraewyr.

Mae chwaraewyr fel Alex Cythbert, Justin Tipuric a Cory Allen wedi elwa o’r system saith bob ochr i fod yn chwaraewyr rhyngwladol.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio gwella strwythur y gystadleuaeth a sicrhau bod Cymru yn un o’r timau gorau.  Fe gafodd Gareth Williams yrfa lwyddiannus yn y gystadleuaeth saith bob ochr cyn ymuno â’r staff hyfforddi chwe blynedd yn ôl ac mae’n edrych ymlaen at yr her sy’n ei wynebu.

‘‘Mae cael y swydd yn llawn amser wedi bod yn uchelais gen i ac yr wyf yn ddiolchgar am gefnogaeth Undeb Rygbi Cymru.  Mae’n fraint cael arwain y tîm hyd ddiwedd y tymor, ac yna edrych ymlaen at y gystadleuaeth byd yr IRB y tymor nesaf,’’ meddai Williams.

Ers gwneud y swydd yn rhan amser mae yna nifer o anafiadau i aelodau allweddol o’r garfan wedi bod yn rhwystredig i Williams.  Er hynny fe wnaeth y tîm yn dda yn y ddwy gystadleuaeth yn Tokyo a Hong Kong gan gyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth y Plat cyn colli i Dde Affrica sy’ yn yr ail safle yn y byd ar hyn o bryd.

‘‘Er yr anafiadau yr oedd y bechgyn yn ardderchog yn Hong Kong a gobeithio y gallwn barhau i wella.  Byddwn yn gweithio ar y pethau cadarnhaol ac erbyn y gystadleuaeth yn Glasgow yn ystod y penwythnos. 

“Mae dau o’r timau yr ydym yn gobeithio gwneud yn dda yn eu herbyn sef yr Ariannin a Kenya yn yr un grŵp a ni.  Ein bwriad yw gorffen yn y safle uchaf posibl,’’ ychwaengodd Williams.