Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi mai Daniel Suter yw’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda’r Gweilch am y tair blynedd nesaf.
Y prop pen tynn yw’r unfed chwaraewr ar ddeg i arwyddo cytundeb newydd gyda’r rhanbarth ers dechrau’r flwyddyn.
Mae hyn yn fwy o newyddion da i’r Gweilch yr wythnos hon, yn dilyn penderfyniad clo De Affrica Rynier Bernardo i arwyddo iddynt ar gyfer y tymor nesaf, a hefyd bod Dan Baker a Nicky Smith wedi arwyddo cytundebau newydd.
Er na chafodd Suter, sy’n dod o ardal Sandfields, Port Talbot ei ddewis i garfan dan 16 y Gweilch fe wnaeth barhau i weithio’n galed.
Mae wedi ennill capiau i dîm dan 18 oed a dan 20 oed Cymru a chwarae ym Mhencampwriaeth Byd y Chwaraewyr Iau yn Ffrainc yr haf diwethaf.
Fe ymddangosodd gyntaf dros y Gweilch yn erbyn y Dreigiau yn Ionawr 2013 gan ymddangos mewn 14 o gemau’r rhanbarth y tymor hwn. Fe wnaeth ddechrau ei gêm gyntaf yn y Pro 12 gartref yn erbyn Munster ym mis Chwefror.
‘‘Yr wyf yn hapus iawn o fod wedi arwyddo cytundeb proffesiynol. Yr wyf yn teimlo fy mod wedi datblygu fel chwaraewr ac fel person yn ystod y tair blynedd ddiwethaf ers i mi gael cytundeb datblygu gyda’r Gweilch.
“Yr wyf wedi mwynhau cael gymaint o amser ar y cae y tymor hwn a phrofi fy hun yn erbyn y goreuon. Gobeithio nad wyf wedi gadael neb i lawr,’’ meddai Suter.
Fe wnaeth Andy Lloyd, rheolwr gweithredol Rygbi’r Gweilch ganmol Suter.
‘‘Mae’n esiampl i’w gyd-chwaraewyr, mae’n berson sy’n gweithio’n galed gydag agwedd dda. Mae’n gwella bob dydd. Mae’n un o’r propiau ifanc addawol sydd gyda’r rhanbarth,’’ meddai Lloyd.
Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi yr wythnos hon y bydd canolwr Fiji a Chaerwrangon Josh Matavesi, cefnwr Cymru a’r Dreigiau Dan Evans a bachwr y Dreigiau Sam Parry yn ymuno â nhw yn yr haf.
Yn ychwanegol at hyn mae’r rhanbarth wedi sicrhau gwasanaeth nifer o chwaraewyr profiadol gyda Alun Wyn Jones, Sam Lewis, Ashley Beck, Eli Walker, Jonathan Spratt, Ben John, Ryan Bevington a Dmitri Arhip wedi arwyddo cytundebau newydd.