Heno fe fydd y Gweilch yn teithio i Stadio XXV i herio Zebre yng nghystadleuaeth y RaboDirect Pro12.
Mae’n rhaid i’r Gweilch gael buddugoliaeth yn erbyn Zebre os am unrhyw obaith i orffen yn y 4 uchaf.
Mi fydd y clo rhyngwladol Ian Evans yn dychwelyd i’r rhanbarth am y tro cyntaf ar ôl iddo gael ei wahardd am 12 wythnos.
‘‘Mae hon yn gêm hollbwysig i ni. Rydym wedi bod yn ymarfer yn galed ac wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer y gêm. Mae’n her enfawr i’r chwaraewyr, sy’n dîm ifanc ac mae’n wirioneddol gyffrous meddwl am y tîm yma ymhen ychydig o flynyddoedd,’’ meddai Steve Tandy, rheolwr y Gweilch.
Mi fydd y gic gyntaf am 5 o’r gloch ac yn fyw ar S4C.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Sam Davies, Hanno Dirksen, Ashley Beck, Andrew Bishop, Aisea Natoga, Dan Biggar a Tom Habberfield.
Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Ian Evans, Alun Wyn Jones (Capten), James King, Justin Tipuric a Dan Baker.
Eilyddion – Scott Otten, Marc Thomas, Adam Jones, Ryan Jones, Joe Bearman, Sam Lewis, Tito Tebaldi a Jeff Hassler.