Jonathan Ford, Carwyn Jones a Roger Lewis yn y lansiad heddiw
Fe lansiodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu hymgyrch i ddenu Ewro 2020 i Gaerdydd yn swyddogol heddiw, gydag arweinydd cyngor y ddinas yn awgrymu y byddai’r gemau’n dod a gwerth £42miliwn o fudd economaidd i’r ardal.
Cafwyd cadarnhad yr wythnos diwethaf fod Caerdydd yn un o 19 dinas sydd wedi gwneud cais i gynnal gemau, ar ôl i UEFA benderfynu cynnal y twrnament ar draws 13 gwlad.
Gallai tair gêm grŵp ac un gêm yn nes ymlaen yn y gystadleuaeth gael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod Ewro 2020. Mae’r stadiwm yn dal dros 74,000 o bobl ac fe fydd cae lled-artiffisial Desso wedi’i osod yno erbyn hynny.
Roedd nifer o gefnogwyr yr ymgyrch yn bresennol yn y lansiad heddiw gan gynnwys rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman, prif weithredwr CBDC Jonathan Ford, Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis.
Cafodd llyfryn ei rhyddhau hefyd gan yr ymgyrch yn pwysleisio manteision dewis Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm fel lleoliad ar gyfer Ewro 2020, gan gynnwys record o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr megis gemau rygbi’r Chwe Gwlad a Chwpan Ryder.
Mae’r pecyn hefyd yn nodi nad yw Caerdydd yn fwy na dwy awr i ffwrdd o ddinasoedd megis Bryste, Llundain a Birmingham, gyda chysylltiadau trafnidiaeth dda at nifer o feysydd awyr.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed hefyd yn pwysleisio cefnogaeth wleidyddol eang i’r ymgyrch gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a Chyngor Caerdydd.
Gwyliwch fideo’r ymgyrch yma (yn Saesneg):
“£42 miliwn o hwb economaidd”
Fe fynnodd arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale y byddai cynnal gemau’r twrnament yn dod a budd economaidd hir dymor i’r ddinas a Chymru gyfan.
“Mae tystiolaeth o wledydd sydd wedi cynnal Pencampwriaethau Ewrop yn ddiweddar fod cynnal y trydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd [ar ôl Cwpan y Byd a’r Gemau Olympaidd] yn medru dod a manteision economaidd sylweddol,” meddai Phil Bale.
“Mae asesiad gafodd ei wneud fel rhan o gais CBDC wedi awgrymu y bydd hwb economaidd sylweddol o £42miliwn i’r rhanbarth ac i economi Cymru, yn ogystal â chyfleoedd adeiladu brand sylweddol sydd yn dod o ddarlledu i gynulleidfa teledu byd eang o 600 miliwn.
“Bydd cynnal Ewro 2020 hefyd yn cynyddu niferoedd twristiaid, yn ystod y gystadleuaeth ac wedi hynny.
“Yn amlwg mae manteision mawr i Gaerdydd a Chymru o gynnal twrnament mwyaf UEFA.”
Bydd UEFA’n penderfynu ar yr 13 gwlad fydd yn cynnal y gystadleuaeth ym mis Medi eleni.
Gallwch weld llyfryn yr ymgyrch gan CBDC wrth ddilyn y linc yma, a gallwch hefyd ddarllen blog pêl-droed diweddaraf golwg360 gan Iolo Cheung yn trafod y gystadleuaeth.