Dan Baker yw’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch, ar ôl i’r chwaraewr rheng-ôl benderfynu aros am dair blynedd arall.

Bydd y gŵr 21 oed, sydd wedi ennill dau gap dros Gymru yn Siapan y llynedd, nawr yn aros yn y Liberty nes 2017 ac fe yw’r degfed chwaraewr i ailarwyddo gyda’r Gweilch eleni.

Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros y Gweilch yn Ionawr 2013 mae Baker bellach wedi chwarae 13 gwaith dros y rhanbarth, ar ôl rhediad cyson diweddar yn y tîm yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ac fe ddywedodd Baker na fyddai wedi breuddwydio am unrhyw beth yn wahanol.

“Rwyf mor hapus. Ers bod yn blentyn, yr unig beth oeddwn i eisiau ei wneud oedd chwarae i’r Gweilch,” meddai Baker, a ddechreuodd ei yrfa yn Ystradgynlais. “Rwy’n fachgen lleol a dyma’n rhanbarth.

“Mae wedi bod yn flwyddyn dda i mi, rwy’n eithaf lwcus a dweud y gwir o fod wedi cael y profiad yn Siapan gyda Chymru’r haf diwethaf, a nawr mod i’n ffit ar ôl ychydig fisoedd mas mae’n wych cael chwarae’n rheolaidd i’r Gweilch.”

Fe rybuddiodd Rheolwr Gweithredoedd Rygbi’r Gweilch, Andy Lloyd, mai dechrau’r daith yn unig oedd hyn i Baker.

“Mae’n un sy’n plesio’r dorf gyda’r ynni mae’n rhoi i’r tîm,” meddai Andy Lloyd. “Mae’n gorfforol gryf, yn bwerus, ac yn cario’r bêl yn wych, sydd hefyd yn gallu amddiffyn, ac mae’n cynnig opsiynau i ni o gwmpas y cae.

“Ond all e ddim mynd yn hunanfodlon nawr. Mae’n bwysig ei fod yn parhau i ddangos yr agwedd iawn ar ac oddi ar y cae, ac yn adeiladu ar y gwaith caled sydd wedi dod ag e ble mae e heddiw.”

Mae’r Gweilch eisoes wedi arwyddo Alun Wyn Jones, Sam Lewis, Ashley Beck, Eli Walker, Jonathan Spratt, Ben John, Ryan Bevington, Dmitri Arhip a Nicky Smith ar gytundebau y tu hwnt i eleni.

Fe fydd Rynier Bernardo (Eastern Province Kings), Josh Matavesi (Caerwrangon) a’r Dreigiau Sam Parry a Dan Evans hefyd yn ymuno â’r garfan y tymor nesaf.