Garry Monk
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n barod i benodi Garry Monk yn rheolwr parhaol, yn ôl adroddiadau.

Bu Monk wrth y llyw ers i’r Elyrch ddiswyddo Michael Laudrup ym mis Chwefror.

Mae disgwyl iddo drafod cytundeb â’r cadeirydd Huw Jenkins yn yr wythnosau i ddod.

Yn ei gyfnod fel rheolwr dros dro, mae Monk wedi cadw ei dîm yn yr Uwch Gynghrair am bedwerydd tymor.

Sicrhaodd yr Elyrch eu lle yn yr adran uchaf yn dilyn buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Aston Villa yn Stadiwm Liberty y penwythnos diwethaf.

Mae Monk eisoes wedi arwain ei dîm i fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Caerdydd yn ei gêm gyntaf wrth y llyw, a buddugoliaeth o 2-1 oddi cartref yn Newcastle.

Ond siomedig fu’r canlyniadau ar y cyfan ers mis Chwefror.

Mae’r Elyrch wedi ennill pedair gêm yn unig allan o 15, gan golli saith a phedair gêm gyfartal.

Ond pe bai Monk yn cael cynnig y swydd, mae disgwyl iddo dderbyn cytundeb tymor hir.

Mae lle i gredu y byddai ei benodiad yn cael ei groesawu gan y chwaraewyr, wedi i’r capten Ashley Williams a’r chwaraewr canol-cae Jonathan de Guzman fynegi eu bod nhw am weld cyn-gapten Abertawe’n cael ei benodi.

Mae dwy gêm yn weddill o’r tymor – yn erbyn Southampton yn Stadiwm Liberty ar Fai 3 a thaith i Sunderland ar ddiwrnod olaf y tymor ar Fai 11.

Fe allen nhw orffen yn hanner uchaf y tabl pe baen nhw’n sicrhau dwy fuddugoliaeth a phe bai’r canlyniadau eraill yn ffafriol iddyn nhw.