Justin Tipuric
Mae yna amheuaeth a fydd blaenasgellwr y Gweilch, Justin Tipuric ar gael ar gyfer taith Cymru i Dde Affrica.

Mae Tipuric yn dioddef o anaf i’w ysgwydd ac fe allai golli’r daith er mwyn cael llawdriniaeth.

‘‘Mae gan Justin broblem i’w ysgwydd ac fe allai golli’r daith.  Ond mae gennym ddewisiadau eraill.  Rwy’n meddwl y gallwn chwarae yn erbyn De Affrica heb flaenasgellwr arbenigol oherwydd maint y chwaraewyr y maen nhw’n eu dewis yn y rheng-ôl,’’ dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Mae Tipuric a’r Capten Sam Warburton wedi bod yn brwydro am y crys rhif 7 ers dwy flynedd.  Mae Gatland wedi awgrymu y gall chwarae Dan Lydiate fel rhif 7, gan ei fod yn chwarae yn y safle hwnnw i’w glwb Racing Metro yn Ffrainc y tymor hwn.

Mae Gatland yn barod i ddewis rheng-ôl o chwaraewyr tal i wrthwynebu rheng-ôl De Affrica sef yr wythwr Duane Vermeulen a’r blaenasgellwr Willem Alberts a Francois Louw.

‘‘Fe allem symud Lydiate i rif 7 a dod a Bradley Davies i mewn fel rhif 6 i ddelio gyda Alberts.  Mae’n sicr yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried,’’ ychwanegodd Gatland.

Mae’r Capten Sam Warburton yn colli’r daith oherwydd yr anaf a ddioddefodd i’w ysgwydd yn erbyn yr Alban.

Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm brawf yn erbyn De Affrica.  Bydd y gyntaf yn Durban ar 14 Mehefin a’r ail ar 21 Mehefin.

Bydd ganddynt hefyd gêm baratoi yn erbyn Eastern Province Kings yn Port Elizabeth ar 10 Mehefin.