Fe wnaeth dau gais yn yr ail hanner sicrhau buddugoliaeth o 13-8 i Cross Keys yn erbyn Bedwas neithiwr yng nghynghrair y Principality.

Gyda dim ond dwy gêm yn weddill o’r tymor mae Cross Keys wedi esgyn i’r trydydd safle a gwthio Llanymddyfri i’r pedwerydd safle.

Er iddyn nhhw ymosod yn galed ni allai Bedwas dorri amddiffyn trefnus Cross Keys.  Fe wnaeth Powell lwyddo gyda chic gosb o 40 metr i roi’r flaenoriaeth i Fedwas.  Er i’r ddwy ochr gae cyfleoedd ni lwyddwyd i gael cais.

Cafodd wythwr Bedwas, Dan Crimmins ei anfon i’r gell gosb ar ôl 33 munud am ddefnydd peryglus o’i esgid.  Daeth cais cyntaf y gêm yn gynnar yn yr ail hanner pan groesodd Elliot Jones am gais i Cross Keys.  Er i Angus O’Brien fethu gyda’r trosiad fe wnaeth lwyddo gyda chic gosb ar ôl i Fedwas gael eu cosbi am drosedd yn y sgrym.

Fe groesodd Phil Williams am ail gais Cross Keys ar ôl 61 munud.  Er i’r eilydd o fachwr Richard Wilkes groesi am gais i Fedwas ni lwyddwyd gyda’r trosiad.  Ar ddiwedd y gêm bu’n rhaid i Fedwas bodloni am bwynt bonws yn unig.