Alun Wyn Jones
Os daw’r alwad iddo arwain ei wlad yn Ne Affrica, mae clo’r Gweilch Alun Wyn Jones yn barod am yr her.

Ni fydd Capten Cymru Sam Warburton ar y daith oherwydd anaf i’w ysgwydd ac mae Jones yn barod i amddiffyn ei record fel Capten  heb golli gêm yn y crys coch.

Nid yw Jones wedi derbyn y cyfrifoldeb yn swyddogol oddi wrth y prif hyfforddwr Warren Gatland eto ond mae Jones wedi cyfaddef ei fod yn benderfynol i ymateb i’r her os daw ei ffordd.

Fe wnaeth y chwaraewr 28 oed arwain tîm y Llewod i fuddugoliaeth yn y gêm brawf olaf yn Awstralia’r flwyddyn ddiwethaf.  Er iddo ymddangos 78 o weithiau i Gymru dim ond ddwywaith mae Jones wedi arwain Cymru.  Roedd sôn y bydd nifer o chwaraewyr yn cael eu gorffwys ar gyfer y daith ond mae Gatland yn bwriadu mynd a charfan gref i herio De Affrica.

Ond yn gyntaf mae Jones yn canolbwyntio ar y gemau sy’n weddill gyda’r Gweilch.

‘‘Tair gêm sy’n weddill o’r tymor ac efallai rhagor os llwyddwn ni i gyrraedd y 4 uchaf,’’ meddai Alun Wyn Jones.