Er bod rhanbarthau Cymru am dderbyn mwy o arian, nid yw cyn-gapten Cymru yn ffyddiog y bydd modd cadw’r chwaraewyr gorau rhag gadael am borfeydd brasach Ffrainc…
Mae’r Cwpan Heineken yn dychwelyd y penwythnos yma gyda rownd y chwarteri a’r unig beth cadarnhaol y gallwn ni fachu arno yng Nghymru yw bod dyfodol rygbi Ewropeaidd wedi ei sicrhau o’r diwedd.
Dyw’r heddwch ddim yn un llwyr, gan fod nifer o faterion i’w datrys o hyd rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau.
Ond ar y mater penodol hwn, mae’n ymddangos beth bynnag bod y rhanbarthau wedi ennill y ddadl i bob pwrpas ac yn ddamcaniaethol o leiaf wedi cael cytundeb llawer mwy proffidiol i sicrhau eu dyfodol.
Ar un wedd, mae hyn yn wir ond dwi ddim yn gwbl argyhoeddedig bod holl broblemau’r rhanbarthau wedi cael eu datrys yn llwyr eto.
Fel mae pethau ar hyn o bryd, does gan Gymru’r un tîm yn wyth olaf y Cwpan Heineken ac mae’n edrych yn debyg na fydd gennym unrhyw dîm yng ngemau ail gyfle’r RaboDirect Pro 12 chwaith.
Y tymor nesaf mae’n edrych yn debyg mai dim ond dau o’n timau fydd ym mhrif gystadleuaeth Ewrop. Yn amlwg, nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol.
Mae gan ranbarthau Cymru fwy o arian i arwyddo chwaraewyr tramor o safon ac atal yr ecsodus o Gymru.
Ond fe fydd holl glybiau a rhanbarthau Ewrop yn cael mwy o arian o’r cytundeb hwn hefyd.
Clybiau Lloegr a Ffrainc yn fwy cyfoethog
Felly mae’r gwahaniaeth mawr rhwng y cyllid y mae rhanbarthau Cymru yn ei dderbyn o’i gymharu â Lloegr a Ffrainc yn aros yr un fath.
Yn wir, mae contractau darlledu clybiau Lloegr a Ffrainc yn debyg o ledu’r bwlch rhyngddynt a’r gweddill hyd yn oed yn fwy.
Felly, er y bydd rhanbarthau Cymru yn awr yn gallu cynnig contractau mawr i’w chwaraewyr targed, bydd y contractau sydd ar gael tu allan i Gymru hyd yn oed yn fwy nag y maen nhw ar hyn o bryd.
Nifer fach iawn o chwaraewyr o’r safon uchaf sydd ar gael. Dyma’r elît sy’n ennill pencampwriaethau, newid canlyniad gemau a sicrhau llwyddiant.
Bydd y rhain yn darged i’r clybiau sy’n gallu gwario fwyaf.
Mae’r clybiau eraill yn gorfod bodloni ar chwaraewyr o safon uchel, ond nid â’r un gallu a sgiliau â’r chwaraewyr gorau un.
Felly bydd yr un problemau’n aros wrth geisio cadw’r chwaraewyr gorau yng Nghymru.
Fe allan nhw aros yng Nghymru ac ennill cyflog da iawn neu adael Cymru ac ennill arian mawr.
Cyfle i arwyddo sêr hemisffer y de
Felly, a fydd y contract newydd yn atal y chwaraewr rhag gadael?
Bydd yn rhaid inni aros a gweld. Os bydd y gwahaniaeth rhwng gwario Cymru a Ffrainc yn parhau’r un peth, fe fyddai’n ffolineb i unrhyw chwaraewr beidio â hel eu pac a mentro draw i Ffrainc.
Mae rhai’n dweud y bydd y cytundeb hwn yn cryfhau ymdrechion y rhanbarthau o arwyddo sêr o’r ansawdd uchaf o hemisffer y de.
Ond os bydd mwy o arian yn y cynghreiriau eraill, a ydyn nhw’n debyg o ddod i Gymru am lai o gyflog?
Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd derbyn mwy o arian yn rhoi’r rhanbarthau mewn sefyllfa lawer cryfach.
Bydd Cymru yn dal i fod yn dlotach na’r gwledydd eraill a’r pryder yw y bydd yr holl arian ychwanegol i gyd yn diflannu yn talu llawer mwy i gwmws yr un set o chwaraewyr.
Ni fydd talu mwy o arian i’r un chwaraewr yn eu gwneud yn chwaraewr gwell. Os yw chwaraewr yn ennill £100,000 y flwyddyn yn awr, a fydd yn well chwaraewr o dderbyn £150,000 y flwyddyn?
Fe ddylai fod wedi ymroi’n llwyr i’w glwb eisoes a dyw cael arian ychwanegol ddim yn mynd i wneud nhw’n well chwaraewyr. Dwi ddim yn meddwl y bydd yr arian ychwanegol wir yn gwella’r gêm.
Nid yw hyn yn feirniadaeth o’r chwaraewyr o gwbl. Pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n gwrthod codiad cyflog?
Os oes arian ychwanegol yn y gêm, fe ddylai’r chwaraewyr gael eu gwobrwyo. Mae hi’n yrfa fer ac mae’n rhaid i’r bechgyn ennill cymaint o arian ag y gallant.
Bydd yr arian ychwanegol yn helpu talu am lawer o’r costau sefydlog o redeg y rhanbarthau ac efallai yn sicrhau eu bod yn goroesi ar seiliau cadarnach.
Ond rwy’n disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r arian yn cael ei wario ar gyflogau mwy yn fwy nag unrhyw beth arall.
I droi at faterion ar y maes chwarae, rwy’n credu y bydd Clermont, Munster, Saracens a Toulon yn cyrraedd y rownd gynderfynol. Ewch lawr i’r siop fetio nawr i fetio ar y clybiau eraill!
Cwpan Heineken ar S4C nos Sul am ddeg.