Fe ddechreuodd ein eitem Tîm yr Wythnos cyntaf ni nôl yn yr Hydref ar nodyn da, wrth i ni ymweld â Phontypridd tra’r oedden nhw’n paratoi i ddechrau eu hymgyrch yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon i ffwrdd yng Nghaeredin.

Ennill mewn buddugoliaeth swmpus dros Academials Caeredin oedd eu hanes y penwythnos hwnnw – ac mae golwg360 nawr yn dychwelyd i Ponty wrth iddyn nhw baratoi am her fawr arall yn y gwpan.

Mae’r clwb yn wynebu gêm anferth wrth deithio lawr i herio Cornish Pirates ddydd Sul, yn rownd wyth olaf y gwpan, a nhw yw’r unig dîm Cymreig sydd ar ôl yn y gystadleuaeth.

Cael a chael oedd hi i ddod drwy’u grŵp, wrth iddyn nhw roi crasfa arall i Academials Caeredin yng ngêm olaf eu grŵp ond gorfod dibynnu ar Gymry Llundain yn trechu Albanwyr Llundain er mwyn sicrhau’u lle.

Ponty’n wynebu’r pros

Ond er bod eu gwrthwynebwyr, sydd yn chwarae ym Mhencampwriaeth Lloegr, yn dîm proffesiynol mae hyfforddwr Pontypridd yn ysu am yr her.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr ornest,” meddai Phil John. “Mae wedi bod yng nghefn y meddwl ers chwe wythnos, ond roedd yn rhaid i ni ganolbwyntio ar ein cynghrair a chwpan yng Nghymru bryd hynny.

“Rydyn ni wedi chwarae’n dda yn ddiweddar er i ni golli yn Aberafon y penwythnos diwethaf. Fe wnaethon ni’n iawn am hynny nos Fawrth [pan drechon nhw’r un gwrthwynebwyr 42-10] ac mae’r garfan nawr yn edrych yn bositif am y trip i Gernyw.

“Mae cyrraedd rownd yr wyth olaf yn gamp yn ei hun, yn enwedig ar ôl dod drwy grŵp oedd yn cynnwys timau cryf eraill o Bencampwriaeth Lloegr fel Cymry Llundain ac Albanwyr Llundain.

“Rydym yn wynebu Cornish Pirates sydd yn dîm proffesiynol llawn arall ac fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau, bod yn gywir ym mhopeth y gwnawn ni a chymryd pob cyfle os ydyn ni eisiau unrhyw siawns o fuddugoliaeth.”

Tymor disglair

Mae’r clwb wedi parhau i berfformio’n wych ers i ni ymweld â nhw ym mis Medi, gyda’r tîm ar frig Uwch Gynghrair Cymru a hefyd yn wynebu Aberafon yn rownd gynderfynol Cwpan SWALEC y penwythnos nesaf.

Gallwch wylio fideo gwreiddiol Pontypridd yn cyflwyno’u hunain fel Tîm yr Wythnos golwg360 yma:

Fe fyddai llwyddiant yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon yn coroni’r cyfan, gyda’r clwb erioed wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth o’r blaen, a dim ond wedi cyrraedd y rownd gynderfynol unwaith, yn 2011.

Ond mae wedi bod yn dymor o newid i’r clwb hefyd, gyda’u prif hyfforddwr Dale McIntosh ac yna’u capten Chris Dicomidis ill dau yn ymuno â rhanbarth y Gleision.

Bu newyddion trist iawn i’r clwb hefyd wrth i’r prop poblogaidd Stuart Williams farw’n sydyn ym mis Hydref, ac yntau ond yn 33 oed.

Disgwyl mil o gefnogwyr

Mae’r cyffro’n byrlymu yn barod yn ardal Pontypridd tuag at y gêm fawr brynhawn Sul, ac fe ddywedodd swyddog y wasg Ponty, Guto Davies, ei fod yn disgwyl agos i fil o gefnogwyr i deithio lawr i Gernyw.

“Mae ‘na gryn dipyn o gyffro am y gêm yn barod,” meddai Guto Davies wrth golwg360. “Fe fydd hi’n gêm galed yn erbyn y Pirates, ac fe fydd rhaid i ni fod ar ein gore.

“Mae ‘na tipyn o incentive i ennill hefyd achos fe fyddwn ni gartre yn y rownd nesaf petai ni’n llwyddo, yn erbyn Leinster A neu Munster A.

“Roeddwn i’n digwydd bod yn siarad â rhai o fois Cilfynydd – mae ganddyn nhw gêm ddydd Sadwrn ac mae lot o’u chwaraewyr a’u cefnogwyr nhw’n neidio i’w ceir ac yn mynd syth lawr i Penzance wedyn!”

Bydd y gêm fawr rhwng Pontypridd a Cornish Pirates yn cael ei chwarae ar Gae Mennaye yn Penzance ar ddydd Sul 6 Ebrill, gyda’r gic gyntaf am 2yp.

Tîm Pontypridd: 15.Geraint Walsh. 14.Lewis Williams. 13.Garyn Smith. 12.Dafydd Lockyer (capt). 11.Owen Jenkins. 10.Simon Humberstone. 9.Tom Williams.

1.James Howe. 2.Liam Belcher. 3.Keiron Jenkins. 4.Craig Locke. 5.Jordan Sieniawski. 6.Wayne O’Connor. 7.Rhys Shellard. 8.Dan Godfrey.

Eilyddion: 16.Lloyd Williams. 17.Dai Flanagan. 18.Matthew Nuthall. 19.Tom Hetherington. 20.Miles Normandale. 21.Luke Crocker. 22.Chris Phillips.