Criw Sgorio'n ymweld â Threffynnon
Bydd un tîm o drydedd reng y gynghrair bêl-droed yn gobeithio y bydd ymweliad â dyfroedd y ffynnon sanctaidd eu tref yn gymorth iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.
Mae Treffynnon, sydd yng nghynghrair y Welsh Alliance, wedi cael ymgyrch hudol yng Nghwpan Cymru gan drechu nifer o dimau sydd yn uwch na nhw.
Prynhawn fory fe fyddwn nhw’n teithio i Geredigion i herio Aberystwyth o Uwch Gynghrair Cymru, gêm fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.
Ac mae ennill lle yn rowndiau rhagbrofol Ewrop, yn ogystal â’r cyfle i godi Cwpan Cymru, bron o fewn cyrraedd y ‘Wellmen’.
Treffynnon yn trochi
Yn ddiweddar fe fu chwaraewyr Treffynnon ar raglen Sgorio yn ymweld â chysegrfa hynafol Treffynnon a throchi yn ei dyfroedd.
Mae Ffynnon Gwenffrewi wedi bod yn safle ar gyfer pererindod ers 660 oed Crist, pan dorrwyd pen y Santes Gwenffrewi gan y milwr Cymreig, Caradog. Mae’r ffynnon yn un o saith rhyfeddod Cymru ac yn denu ymwelwyr o amgylch y byd, i dref a adnabyddir yn aml fel Lourdes Cymru.
Ac fe awgrymodd y sylwebydd Dylan Ebenezer y gallai’r ymweliad fod yn hwb i Dreffynnon barhau â’u hantur dylwyth teg.
“Mae angen peth help ysbrydol ar Dreffynnon os ydynt am roi crasfa i dîm arall o gynghrair uwch,” meddai Dylan Ebenezer.
“Y traddodiad yw bod yn rhaid i chi gerdded o amgylch y ffynnon dair gwaith cyn gweddïo ac yna ymdrochi yn y dyfroedd.
“Mae hon yn stori dylwyth teg eisoes – stori am dîm llai yn herio’r mawrion yn y cwpan. Mae’n rhaid iddyn nhw wynebu tîm go gryf i greu hanes ond mae popeth yn bosib yn y cwpan ac fe allan nhw guro Aberystwyth.”
‘Haeddu bod yma’
Aberystwyth fydd y ffefrynnau wrth iddyn nhw hefyd geisio gorffen eu tymor ar nodyn uchel, gyda chwaraewyr o safon Chris Venables, Geoff Kellaway a Mark Jones yn siŵr o gynnig her i fechgyn Treffynnon.
Ac mae rheolwr y Wellmen, John Haseldin, yn llwyr ymwybodol o’r dasg sydd yn wynebu ei dîm.
“Mae Aberystwyth yn dîm ymosodol. Maen nhw’n edrych yn fywiog, gweithio’n galed, ac maen nhw’n chwarae gêm uniongyrchol iawn hefyd,” meddai John Haseldin.
“Ond os cawn ni gyfleoedd o gwmpas y bocs, mae gynnon ni’r chwaraewyr i fachu ar y cyfle.
“Rydym ni’n haeddu bod yn y rownd gynderfynol. Mae pob gêm wedi bod yn galed. Ers y rownd gyntaf rydym wedi chwarae yn erbyn timau sydd yn uwch na ni, rydym yn barod am yr her.”
Yn y gêm arall yn y rowndiau cyn derfynol, mae’r tîm ar frig Uwch Gynghrair Cymru, y Seintiau Newydd, yn herio’r Bala.
Fe fydd y gêm rhwng Aberystwyth a Treffynnon yn fyw o Goedlan y Parc ar raglen Sgorio S4C ddydd Sadwrn 5 Ebrill, gyda’r gic gyntaf am 3.15yp.