Dreigiau Casnewydd Gwent 19–23 Caeredin

Colli fu hanes y Dreigiau wrth i Gaeredin ymweld â Rodney Parade ar nos Iau wlyb yn y RaboDirect Pro12.

Rheolodd y Cymry ran helaeth o’r gêm ond cafodd Caeredin gyfnod da ar ddiwedd yr hanner cyntaf a dechrau’r ail ac roedd hynny’n ddigon i ennill y gêm iddynt.

Hanner Cyntaf

Y Dreigiau ddechreuodd y gêm orau heb os a bu bron iddynt groesi am gais yn y munudau cyntaf ond collodd Hallam Amos y bêl wrth agosáu at y lein ar ôl curo dau amddiffynnwr.

Fe gafodd y Dreigiau eu haeddiant wedi hynny wrth i ddwy gic gosb o droed Jason Tovey eu rhoi chwe phwynt ar y blaen gyda dim ond pum munud i fynd tan yr egwyl.

Caeredin a gafodd y gorau o’r pum munud olaf serch hynny. Trosodd y cefnwr, Jack Cuthbert, dri phwynt cyntaf yr ymwelwyr cyn i Willem Nel sgorio cais cyntaf y noson. Ymosododd Caeredin yn dda o’u hanner eu hunain cyn i’r prop hyrddio drosodd trwy bentwr o gyrff.

Roedd Caeredin bedwar pwynt ar y blaen felly wedi trosiad Cuthbert cyn i Tovey gau’r bwlch i bwynt gyda chic olaf yr hanner.

Ail Hanner

Y Dreigiau a gafodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner wrth i gig gosb Tovey eu rhoi nôl ar y blaen, ond cafodd yr Albanwyr gyfnod da wedi hynny.

Rhwygodd y canolwr, Matt Scott, trwy ganol yr amddiffyn i sgorio cais rhy hawdd o lawer i adfer mantais yr ymwelwyr hanner awr o’r diwedd.

Llwyddodd Cuthbert gyda’r trosiad cyn ychwanegu dwy gic gosb hefyd i roi un pwynt ar ddeg rhwng y ddau dîm gyda dim ond deg munud i fynd.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Dreigiau pan dderbyniodd clo Caeredin, Izak van der Westhuizen, gerdyn melyn wedi hynny ac er i gais Ross Wardle a throsiad Tovey ddod â hwy yn ôl o fewn sgôr fe fethodd y tîm cartref ag ychwanegu ail gais yn y munudau olaf a fyddai wedi dwyn y fuddugoliaeth.

Rhaid oedd iddynt fodloni ar bwynt bonws yn unig felly ond maent yn llithro i’r nawfed safle yn y tabl wrth i Gaeredin lamu drostynt i’r seithfed safle. Mae gobeithion y Dreigiau o chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf bellach fwy neu lai ar ben.

.

Dreigiau

Cais: Ross Wardle 73’

Trosiad: Jason Tovey 73’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 14’, 33’, 40’, 48’

.

Caeredin

Ceisiau: Willem Nel 38’, Matt Scott 50’

Trosiadau: Jack Cuthbert 39’, 50’

Ciciau Cosb: Jack Cuthbert 36’, 67’, 70’

Cerdyn Melyn: Izak van der Westhuizen 72’