Ceffyl sy’n cael ei hyfforddi yn stablau Fferm Fforest yn Nhrefdraeth, Sir Benfro yw’r ffefryn i ennill ras y Grand National yn Aintree ddydd Sadwrn.

Mae Teaforthree yn cael ei hyfforddi gan Rebecca Curtis, ac fe fydd yn cael ei farchogaeth yn y ras fawr gan Nick Scholfield.

Does yna’r un ceffyl o Gymru wedi ennill y ras fawr ers 1905.

Ymhlith y ffefrynnau hefyd mae Tidal Bay, fydd yn cael ei farchogaeth gan y Cymro, Sam Twiston-Davies.

Fe fydd enillydd Grand National Cymru y llynedd, Mountainous hefyd yn y ras, a’i berchennog yw perchennog cae ras Ffos Las yn Sir Gâr, Dai Walters.

Mae’n cael ei hyfforddi yn Llanandras ym Mhowys gan Richard Lee, a Jamie Moore fydd ar ei gefn ddydd Sadwrn.

Hyfforddwr Golan Way yw Tim Vaughan o’r Bontfaen, ac fe fydd yn cael ei farchogaeth gan Michael Byrne.

Mae un arall o geffylau Tim Vaughan, Saint Are, ar y rhestr wrth gefn ddydd Sadwrn.

Un o hyfforddwyr enwocaf Cymru, Evan Williams sydd wedi bod yn hyfforddi One in A Milan, a fydd yn cael ei farchogaeth gan Adam Wedge.

Yn gwylio o’r ymylon fydd perchennog Monbeg Dude, maswr tîm rygbi Bryste, Nicky Robinson, ac fe fydd Paul Carberry yn y cyfrwy.

Mae’r ras yn dechrau am 4.15yh ddydd Sadwrn.