Matthew Rees a Michael Locke yn cyflwyno'r siec
Dros y chwe mis diwethaf, mae’r Gleision wedi bod yn codi arian ar gyfer canolfan ganser Felindre yn dilyn y cyhoeddiad bod Capten y Gleision Matthew Rees yn gorfod treulio cyfnod i ffwrdd o’r gêm er mwyn derbyn triniaeth am ganser y ceilliau.
Fe wnaeth yr hyfforddwyr â’r chwaraewyr eillio eu pennau ar ôl i’r cefnogwyr godi dros £10,000 at yr achos. I ddathlu Rees yn dychwelyd i’r cae nos Sadwrn diwethaf, fe wnaeth y Gleision gyflwyno siec o £20,432.32 i Felindre cyn i’r gêm gychwyn.
‘‘Rwyf wrth fy modd wrth weld cyfanswm yr arian ac mae’n braf cael rhoi’r swm i ysbyty Felindre sydd wedi bod yn arbennig i mi ac i nifer o bobl eraill,’’ meddai Rees.
Mae Matthew Rees wedi diolch i bawb am eu rhoddion a hefyd i ysbyty Felindre am y cymorth a dderbyniodd yn ystod ei driniaeth.
‘Diolchgar’
‘‘Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gleision Caerdydd, i’r staff, eu cefnogwyr a’u noddwyr ac yn enwedig i Matthew am eu rhodd hynod o hael,’’ meddai Andrew Morris, pennaeth codi arian yn Felindre.
‘‘Yn ogystal â’r rhodd, mae Matthew wedi bod yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth am ganser y ceilliau a Felindre – rydym yn ddiolchgar iddo ac wrth ein boddau bod Matthew wedi dychwelyd i’r cae,’’ ychwanegodd.
Mae’r Gleision wedi diolch i bawb am eu cefnogaeth i helpu i gefnogi gwaith ysbrydoledig Canolfan Ganser Felindre.