Y penwythnos yma fe fydd Grand Prix Bahrain yn cael ei gynnal. Cafodd y ras gyntaf yn yr anialwch ei chynnal yn 2004 (mae hwn yn drac arall gan bensaer F1, Hermann Tilke).
Ond nid degfed rhediad y ras fydd hon. Roedd y wlad i fod i gynnal rownd agoriadol y bencampwriaeth nôl yn 2011, ond cafodd dechrau’r tymor ei wthio nôl i Awstralia bythefnos yn ddiweddarach oherwydd y gwrthryfel oedd yn digwydd yn wlad ar y pryd.
Roedd yna obeithion o symud y ras i fis Hydref, ond ni ddigwyddodd hynny.
Cododd cwestiynau a ddylai ras 2012 gael ei chynnal hefyd, ond fe aeth honno yn ei blaen, er gwaetha’r ffaith bod bomiau petrol wedi eu taflu at gar aelodau tîm Force India wrth iddyn nhw deithio yn ôl i’w gwesty.
Newid ffurf
Dim ond wyth gwaith mae’r ras wedi ei chynnal yn ei ffurf bresennol. Fe redwyd ras 2010 ar gyfluniad gwahanol o’r trac, ond nid yw wedi cael ei ddefnyddio ers hynny wrth iddo brofi’n amhoblogaidd.
Ond dylai’r gyrwyr fod yn eithaf cyfarwydd gyda’r cylched yma, gan i ddau o’r tri phrawf gaeaf gael eu cynnal yma nôl ym mis Chwefror. Ond yn wahanol i’r profion a rasys y gorffennol, mae ras eleni yn cael ei chynnal gyda’r nos am y tro cyntaf. Bydd hyn golygu tymheredd llawer is ar gyfer y ras na’r hyn y mae gyrwyr yn arfer gorfod ymdopi â nhw.
Cafodd rasys Singapore ac Abu Dhabi eu hychwanegu i’r calendr fel ychwanegiadau diddorol i’r gamp (fel ras nos a ras cyfnos), gyda’r lleoliadau yno’n cael eu dewis oherwydd cyfleustra amser y rasys i gynulleidfaoedd Ewropeaidd.
Ond gyda dim ond dwy awr o wahaniaeth rhwng Prydain a Bahrain (un i gyfandir Ewrop), mae’n anodd gweld y rhesymeg y tu ôl i’r newid yma.
Ac yn ogystal, mae hyn yn golygu cynnal y ras dan y goleuadau (h.y. defnyddio ynni yn ddiangen) mewn tymor ble mae gymaint o bwyslais wedi ei rhoi ar arbed ynni. Mi rydw i yn y tywyllwch am y penderfyniad yma!
Newid ar y podiwm?
Am y ddwy flynedd diwethaf mae’r safleoedd podiwm wedi bod yr un fath (cyntaf i Vettel, ail i Raikkonen, trydydd i Grosjean).
Er bod Red Bull wedi dangos naid fawr ymlaen o’i gymharu â’u trafferthion yn y gaeaf, fe fydd hi’n anodd i Vettel guro’r Mercedes y tro yma.
A chyda ceir Lotus dim ond yn gweld y fflag unwaith (allan o bedwar posib) hyd yn hyn y tymor hwn, byddai cael Grosjean yn ailadrodd ei gamp yn fwy annhebygol fyth!
Ar ôl gadael y tîm, bydd Raikkonen ychydig mwy hyderus o’i gyfle beth bynnag. Gyda thîm Williams heb gosb grid ar gyfer y ras yma, a siawns bach iawn o law yn yr anialwch (!), bydden nhw hefyd yn obeithiol o benwythnos da.