Matthew Rees
Nos Wener ddiwethaf fe wnaeth Matthew Rees ddychwelyd i Barc yr Arfau oddi ar y fainc ar ôl treulio cyfnod i ffwrdd o’r gêm er mwyn derbyn triniaeth am ganser y ceilliau.

Ar ôl i’r Gleision guro Ulster yn eu gêm olaf ar Barc yr Arfau’r tymor yn y Rabo Direct Pro 12, mae Rees yn llygadu safle’r bachwr yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

Yn 2013 y chwaraeodd Rees dros Gymru y tro diwethaf ac yn awr mae’n obeithiol am sicrhau ei le yng ngharfan Cymru’r flwyddyn nesaf.

‘‘Dyna fy nod, chwarae dros Gymru unwaith eto.  Mae angen i mi chwarae mewn nifer o gemau a chanolbwyntio ar fy ngêm i gael fy ystyried.  Ond yn gyntaf rwyf eisiau dychwelyd i’r cae ac i fwynhau gyda’r Gleision,’’ meddai Matthew Rees.